Maint:

Beth yw Diabetes?

Mae Diabetes Math 1 yn datblygu pan fydd diffyg inswlin difrifol yn y corff am fod y pancreas yn cynhyrchu ychydig iawn o inswlin, neu ddim inswlin o gwbl. Fe'i welir yn aml mewn cleifion sy'n iau na 40 oed a chaiff ei drin gyda phigiadau inswlin

Mae Diabetes Math 2 yn datblygu pan mae'r corff yn dal i allu cynhyrchu inswlin. Ond nid yw'r swm sy'n cael ei gynhyrchu yn ddigon ar gyfer anghenion y corff gan fod y bobl hyn yn gwrthwynebu effeithiau inswlin yn fwy. Fel arfer, mae'r math yma o ddiabetes yn ymddangos mewn pobl sy'n hyn na 40.Gellir trin y bobl hyn gyda diet ac ymarfer corff i ddechrau ond yn aml fe fyddan nhw angen tabledi neu inswlin yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Mae diabetes yn gyflwr meddygol cronig ac mae angen ei fonitro'n agos a'i drin er mwyn cadw'r lefelau glwcos gwaed mor agos ag sy'n bosib at y lefel arferol. Mae'r driniaeth yn effeithiol o ran rheoli lefelau glwcos gwaed ac mae'n lleihau risg person o ddatblygu cymhlethdodau yn sylweddol. Mae newidiadau i'r ffordd o fyw a diet yn rhan bwysig iawn o'r driniaeth hon.
Dyma brif symptomau diabetes sydd heb ei drin:
. mwy o syched
. pasio dwr yn aml - yn enwedig yn ystod y nos
. blinder eithafol
. colli pwysau
. crafu'r organau cenhedlu neu achosion rheolaidd o'r llindag ( thrush )
. methu â gweld yn glir

Fe all y symptomau hyn ddatblygu'n raddol ac mae'n bosib na fyddwch yn sylwi arnynt am fisoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed. Ni fydd llawer o bobl yn sylwi ar unrhyw symptomau ac maen nhw'n cael eu diagnosio yn ystod profion iechyd arferol, pan fydd gwaed neu wrin yn cael ei brofi am glwcos. Yn gyfftrdinol, mae diabetes math 2 yn datblygu'n araf. Maen nhw'n credu y gallai fod cymaint ag un miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig â diabetes math 2 sydd heb ei ddiagnosio. I'r gwrthwyneb, mae diabetes math 1 yn datblygu'n gyflym ac mae'r person yn colli pwysau ac yn sylwi ar symptomau syched amlwg.
Mae lefelau glwcos gwaed ym amrywio trwy'r dydd. Fel arfer, mae lefelau yn codi ar ôl cael bwyd ac maen nhw'n syrthio pan yn ymprydio neu ar ôl ymarfer corff. Mesur glwcos gwaed ar ôl ymprydio dros nos yw'r prawf mwyaf cywir ar gyfer diagnosio Diabetes. Ystyrir bod lefel o lai na 6 mmol/l yn normal ac mae lefel o 7 mmol/l neu'n uwch yn arwydd o ddiabetes.