Diabetes Math 2
Pwy sy'n cael Diabetes Math 2?
Sut mae Diabetes Math 2 yn cael ei drin?
Beth yw Diabetes Math 2?
Roedden nhw'n arfer galw diabetes math 2 yn "ddiabetes aeddfedrwydd" oherwydd fel arfer mae'n dod i'r amlwg ymhlith pobl canol oed neu hyn. Ond weithiau fe fydd yn dod i'r amlwg ymhlith pobl iau. Mae'n digwydd pan fydd y corff yn gwrthsefyll inswlin yn hytrach na diffyg inswlin llwyr. Mewn geiriau eraill, mae celloedd beta y pancreas yn dal i gynhyrchu inswlin, ond nid yw'r swm yn ddigon gan nad ydyw celloedd y corff yn sensitif iawn i inswlin. Ar draws y byd, amcangyfrifir bod gan dros 100 miliwn o bobl ddiabetes a bod gan dros 90% o'r rhain diabetes math 2. Dyma'r 'math cyffredin' o ddiabetes felly. Mae hefyd yn glefyd pobl hy n ac mae nifer cynyddol o gleifion yn dod i'r amlwg mewn poblogaethau sy'n heneiddio.
Pwy sy'n cael Diabetes Math 2?
Y bobl sydd â'r mwyaf o risg o ddatblygu Diabetes Math 2 yw :
. Pobl sydd â hanes o ddiabetes yn y teulu
. Pobl rhwng 40 a 75 oed
. Pobl o darddiad Asiaidd neu Affro-Garibeaidd
. Pobl sy'n pwyso mwy na'r pwysau delfrydol ac sy'n eistedd llawer
. Merched sydd wedi cael diabetes yn ystod beichiogrwydd
Yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni'n gwybod bod gan dros 1.4 miliwn o bobl diabetes math 2. Credir bod 1 miliwn arall sydd heb eu diagnosio hyd yn hyn.
Erbyn hyn, mae pwyso mwy na'r pwysau delfrydol yn broblem sylweddol sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw yng nghymdeithasau'r gorllewin. Yn y Deyrnas Unedig, mae dros hanner yr oedolion yn pwyso mwy na'r pwysau delfrydol ac mae un o bob 5 oedolyn yn cael ei ystyried yn ordew ( obese ). Ond nid yw pob unigolyn sydd â diabetes math 2 yn ordew.
Mae diffyg ymarfer corff yn ffactor pwysig arall yn natblygiad gordewdra ac mae wedi'i brofi bod pobl sy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn llai tebygol o ddatblygu diabetes.
Beth yw'r symptomau?
Mae symptomau diabetes math 2 yn debyg i symptomau math 1:
. pasio mwy o ddwr
. mwy o syched
. dihuno yn ystod y nos i yfed ac i basio dwr
. methu â gweld yn glir
. heintiadau fel y llindag ( thrush) , heintiadau troethol, heintiadau croen ( cornwydydd )
. blinder eithafol
Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael unrhyw rai o'r symptomau hyn yn rheolaidd, holwch eich meddyg, ac fe all eich meddyg drafod profion lefel glwcos gwaed gyda chi. Y cynharach y caiff eich diabetes ei ddiagnosio, yr haws y bydd i'ch helpu.
Beth yw'r cymhlethdodau?
Yn aml, mae diabetes math 2 yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel ac annormaleddau brasterau'r gwaed fel colesterol sydd, gyda'i gilydd, yn arwain at risg uchel o glefyd cardiofasgwlar (trawiadau ar y galon, strôc a phroblemau cylchrediad yn y coesau). Mae dros 75 % o bobl sydd â diabetes math 2 yn marw o'r cyflyrau hyn ac amcangyfrifir bod disgwyliad oes yn gostwng 5-10 mlynedd, Yn y gorffennol, roedd diabetes math 2 yn cael ei ddisgrifio fel 'diabetes ysgafn' oherwydd, yn aml, roedd modd ei rheoli trwy ddiet yn unig ac nid oedd angen inswlin. Erbyn hyn, mae'n cael ei gydnabod fel cyflwr difrifol sydd â chymhlethdodau difrifol os na chaiff ei drin. Mae'r prif gymhlethdodau wedi eu rhestru isod ac maen nhw'n cael eu disgrifio'n fanwl mewn man arall ar y wefan:
. clefyd coronol y galon
. strôc
. clefyd fasgwlar ymylol (cylchrediad gwael yn y coesau)
. niwropatheg diabetig
. clefyd diabetig yr arennau
. clefyd diabetig y llygad
Sut mae Diabetes Math 2 yn cael ei drin?
Mae angen i bobl sydd â diabetes math 2 fwyta diet iach sy'n cynnwys y cydbwysedd iawn o ran bwyd. Y nod yw gostwng faint o egni a braster yr ydych yn ei fwyta a chynnal pwysau arferol y corff. Os bydd eich meddyg neu nyrs diabetes yn teimlo nad yw hyn yn ei hun yn ddigon i gadw eich lefelau glwcos gwaed yn normal, efallai y bydd angen i chi gymryd tabledi hefyd.
Rydyn ni'n gwybod bod gostwng pwysau'r corff mewn pobl gordew yn gostwng y perygl o glefyd cardiofasgwlar, yn gostwng pwysedd gwaed ac yn gwella cyfansoddiad brasterau'r gwaed.
Mae yna sawl math o dabledi ar gyfer pobl sydd â diabetes math 2. Mae rhai o'r rhain yn helpu eich pancreas i ryddhau mwy o inswlin. Mae mathau eraill yn helpu eich corff i wneud gwell defnydd o'r inswlin y mae eich pancreas yn ei gynhyrchu.
Yn y pendraw, efallai na fydd hyd yn oed sawl math o dabledi yn ddigon i gadw eich lefelau glwcos gwaed yn normal ac fe allai eich meddyg ddweud wrthoch i gymryd inswlin yn ogystal â'ch tabledi, neu yn eu lle.



