Maint:

Diabetes Math 1

Beth sy'n achosi Diabetes Math 1?

Pam mae symptomau'n datblygu?

Beth yw'r cymhlethdodau?

A ydyw'n peryglu bywyd ?

A oes unrhyw broblemau brys?

Sut mae Diabetes Math 1 yn cael ei drin?

Dolenni cyswllt defnyddiol

 

Beth sy'n achosi Diabetes Math 1?

Fel arfer, mae diabetes math 1, a oedd yn arfer cael ei alw'n diabetes inswlin-ddibynnol yn datblygu mewn plant neu oedolion ifainc. Mae inswlin yn hormon sy'n cael ei gynhyrchu gan gelloedd beta y pancreas. Ei brif rôl yw rheoleiddio lefel y glwcos yn y gwaed. Mewn diabetes math 1 mae'r celloedd beta yn cael eu dinistrio'n raddol gan y system imiwn trwy broses a elwir yn 'glefyd hunanimiwn' neu ' autoimmune disease' . O ganlyniad, nid yw'r pancreas yn cynhyrchu llawer o inswlin, os o gwbl, ac mae diabetes yn datblygu.

 

Pam mae symptomau'n datblygu?

Mae inswlin yn gweithio trwy symud glwcos i mewn i gelloedd y corff. Heb inswlin, nid ydym yn gallu defnyddio glwcos yn effeithiol. Mae lefelau glwcos gwaed yn codi ac fe all orlifo i'r wrin. Mae mwy o gyfaint o hylif yn cael ei basio hefyd a dyna sy'n achosi'r symptomau syched a phasio mwy o ddwr. Heb glwcos yn danwydd, mae'r corff yn troi at storfeydd egni eraill ac yn defnyddio meinwe braster a phrotein o'r cyhyrau yn lle. O ganlyniad, mae'r corff yn colli pwysau ac yn mynd yn fwy gwan. Mae pobl sydd â diabetes math 1 yn dibynnu ar bigiadau inswlin i oroesi.

 

Beth yw'r cymhlethdodau?

Dros gyfnod hir o amser, fe all lefelau uchel o glwcos gwaed achosi niwed parhaol i'r llygaid, y nerfau a'r arennau. Mae diabetes hir sefydlog hefyd yn gallu niweidio llestri gwaed mawr. Fe all hyn arwain at drawiad ar y galon, strôc a chylchrediad gwael yn y coesau. Fe all fonitro a rheoli lefelau glwcos gwaed yn rheolaidd atal llawer o'r cymhlethdodau hyn gan alluogi pobl sydd â diabetes math 1 i fyw bywydau hapus a iach.

 

A ydyw'n peryglu bywyd ?

Fe all darganfod eich bod yn dioddef o ddiabetes fod yn brofiad dychrynllyd. Mae diabetes math 1 yn gallu achosi marwolaeth os na chaiff ei drin gyda inswlin. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn byw bywydau cymharol normal gyda therapi inswlin. Ond mae'r oes bywyd arferol yn gostwng tua pum mlynedd os ydych wedi eich diagnosio gyda diabetes math 1. Gyda tua 20% o bobl sydd â diabetes math 1 mae aelod arall o'r teulu hefyd yn ddiabetig. I esbonio mewn ffordd arall, os oes aelod o'ch teulu yn dioddef o'r math yma o ddiabetes, yna mae'r siawns eich bod chi'n datblygu diabetes math 1 yn uwch na'r boblogaeth yn gyffredinol.

 

A oes unrhyw broblemau brys?

Mae yna dri cyflwr brys a allai eich effeithio os oes diabetes math 1 arnoch:
. Mae Cetoasidosis Diabetig yn gymhlethdod sy'n peryglu'ch bywyd ac mae'n dod i'r amlwg ymhlith pobl sydd â diabetes math 1. Mae'n digwydd oherwydd amrywiaeth o ffactorau, yn amrywio o heintiadau a phwysedd i beidio â chymryd dos o inswlin, naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol. Oherwydd y diffyg inswlin mae'r braster yn cael ei dorri i lawr yn gyflym, gan ffurfio cemegau asidig o'r enw cyrff cetonig ( ketone bodies) . Mae'r cyflwr yma'n cael ei ddisgrifio'n fanwl ar dudalen arall. Fel arfer mae hyn yn digwydd law yn llaw gyda hyperglycemia.
. Nid diabetes sy'n achosi Hypoglycemia - mae'n un o gymhlethdodau'r driniaeth.
. Fe allai Hyperglycemia ddigwydd ar ei ben ei hun oherwydd yr un ffactorau ag sy'n achosi cetoasidosis.

 

Sut mae Diabetes Math 1 yn cael ei drin?

Mae pobl sydd â diabetes math 1 angen pigiadau inswlin am weddill eu bywydau ac mae angen iddynt fwyta ac yfed diet iach sy'n cynnwys y cydbwysedd iawn o ran bwyd.
Nid ydych yn gallu llyncu inswlin oherwydd mae'r hylifau sy'n treulio bwyd yn ei ddinistrio yn y stumog. Fel arfer, mae pobl sydd â'r math yma o ddiabetes yn cymryd dau neu bedwar pigiad o inswlin bob dydd. Mae'r rhain yn bwysig iawn i'ch gadw'n fyw ac mae'n rhaid i chi eu cael bob dydd.

 

Dolenni cyswllt defntddiol

http://www.whatistype1diabetes.com - safle ardderchog