Hypoglycemia
Beth yw peryglon hypoglycemia?
A oes unrhyw fathau o inswlin neu dabledi yn fwy tebygol o achosi hypos?
Beth os ydw i'n cael hypo pan fydd hi'n amser cael fy mhigiad?
Beth yw hypoglycemia?
Hypoglycemia yw'r term meddygol am glwcos gwaed isel. Os bydd eich lefelau glwcos gwaed yn syrthio o dan 4 mmol/l rydych chi mewn perygl o gael hypo . Mae lefel eich glwcos gwaed yn gydbwysedd rhwng y glwcos yr ydych yn ei gymryd o'r bwyd a'r glwcos yr ydych yn ei ddefnyddio neu ei storio trwy gymryd inswlin neu dabledi diabetes, neu wneud ymarfer corff. Pan fydd eich siwgr gwaed yn syrthio, mae'r corff yn cynhyrchu amrywiaeth o hormonau sy'n ymdrechu i godi eich siwgr gwaed.
Beth sy'n gallu achosi hypo?
Nid yw diabetes yn achosi hypoglycemia. Mae yna sawl rheswm pam mae hypos yn digwydd:
. bwyta rhy ychydig
. colli neu ohirio pryd bwyd neu fyrbryd
. gwneud mwy o ymarfer corff nag arfer
. cymryd gormod o inswlin
. cymryd gormod o dabledi diabetes
. yfed gormod o alcohol
. pwysedd
. tywydd poeth
Beth yw peryglon hypoglycemia?
Ni fydd cael hypo bob nawr ag yn y man yn gwneud unrhyw niwed ond fe allai hypoglycemia rheolaidd sy'n arwain at coma olygu niwed parhaus neu farwol i'r ymennydd. Yn amlwg, mae cael hypo tra'n gyrru, nofio neu weithio mewn man uchel yn beryglus.
Sut mae hypo'n teimlo?
Mae symptomau hypoglycemia ysgafn yn amrywio o berson i berson. I ddechrau, fe allech deimlo eich bod angen bwyd, teimlo'n sigledig ac yn bryderus a dechrau chwysu. Efallai y cewch ddychlamiadau ( palpitations ), pinnau bach yn eich bysedd, ychydig o ben tost, pendro neu deimlo'n wan. Efallai y cewch anhawster canolbwyntio, efallai na fyddwch yn teimlo mewn hwyliau da ac y byddwch yn teimlo'n grac.
Hypoglycemia canolig. Os na fyddwch chi'n trin eich symptomau ysgafn yn gyflym, ni fydd digon o glwcos yn eich ymennydd i weithio'n normal. Wrth i lefel eich glwcos gwaed ddisgyn ymhellach, fe allai'r symptomau hyn fynd yn waeth eto. Efallai na fyddwch yn gallu cydsymud cystal ac na fyddwch yn gallu gweld yn glir. Fe allai pobl eraill sylwi eich bod chi'n ymddwyn yn rhyfedd er na fyddwch chi, efallai, yn ymwybodol ar y pryd. Mae rhai unigolion sydd â hypoglycemia yn mynd yn fwy ymladdgar. Mae llawer o'r symptomau hyn yn debyg i effeithiau alcohol ac efallai y bydd pobl o'ch cwmpas yn meddwl eich bod chi'n feddw. Gadewch i'ch teulu a'ch ffrindiau ddarllen hwn fel y byddan nhw'n adnabod yr ymddygiad anarferol yma ac yn gallu eich helpu chi. Ni ddylen nhw gymryd unrhyw sylw os ydych chi'n gwrthod eu help - efallai na fyddwch chi'n adnabod eich symptomau ac y byddwch yn amharod i gymryd y siwgr y maen nhw'n ei gynnig.
Beth yw'r driniaeth?
Os oes gennych unrhyw rai o symptomau hypo fe ddylech wneud prawf gwaed glwcos. Os nad ydyw'r lefel yn is na 4 mmol/l yna nid ydych yn debygol o fod yn hypo . Os ydych yn poeni, cymerwch beth siwgr sy'n gweithio'n gyflym rhag ofn.
Mae trin hypo ysgafn yn syml. Cymerwch dabledi decstros neu lwmp neu lwy de o siwgr neu ddiod melys - hanner gwydraid o Lucozade, Coca-cola neu lemonêd
Pan fyddwch chi'n dechrau teimlo'n well, bwytewch fyrbryd da fel gwydraid o laeth a bisged neu frechdan, neu bwytewch eich pryd nesaf o fwyd yn gynnar. Cariwch rhyw fath o siwgr gyda chi ar bob adeg.
Ar gyfer hypo canolig cymerwch beth siwgr (mae siwgr hylif yn haws) cyn gynted ag sy'n bosib. Esboniwch i'ch teulu a'ch ffrindiau efallai y bydd angen iddyn nhw arllwys yr hylif i mewn i'ch ceg a'ch hannog i'w yfed - ond dim ond os ydych chi'n dal i fod yn ymwybodol. Os na allwch chi, neu os nad ydych chi'n fodlon, llyncu, fe allwn nhw roi gel hypostop yn eich ceg. Dylai hyn gael ei amsugno o leinin eich boch yn hytrach na'i lyncu. Y lle gorau i'w osod yw rhwng yr ên a'r foch. Ni ddylid ei ddefnyddio os nad ydych chi'n ymwybodol.
Hypoglycemia difrifol
Weithiau, efallai na fyddwch chi'n sylw ar yr arwyddion cychwynnol ac fe allech lewygu, neu fynd yn anymwybodol. Nid yw arwyddion rhai pobl sy'n dioddef o diabetes yn dda iawn. Mae hyn yn fwy cyffredin mewn pobl sydd wedi cael diabetes am amser hir neu bobl sydd yn rheoli'n dynn ac sy'n cael hypos rheolaidd. Dywedwch wrth eich teulu a'ch ffrindiau, os ydyn nhw'n eich darganfod chi'n anymwybodol, bod angen iddynt:
. ddeialu 999 ar unwaith i alw ambiwlans
. eich chwistrellu chi gyda glucagon os ydyw'r meddyg wedi ei rhoi i chi
. beidio â rhoi unrhyw beth trwy'r geg oherwydd fe allai hyn eich tagu chi
Beth yw Glucagon?
Mae glucagon yn hormon (fel inswlin) a gynhyrchir gan y pancreas. Mae'n gweithio i'r gwrthwyneb i inswlin ac mae'n codi lefel glwcos y gwaed. Caiff ei rhoi fel pigiad ac, fel inswlin toddadwy, gellir ei rhoi o dan y croen, i mewn i'r cyhyr neu i mewn i wythïen.
O fewn y pecyn glucagon mae yna ffiol o bowdr glucagon a chwistrell yn llawn hylif (teneuwr). Caiff y ddos ei baratoi yn syth cyn y pigiad. Y man gorau i chwistrellu i'r cyhyr yw'r cyhyrau mawr dros fochau'r pen ôl, y clun neu'r fraich.
Mae glucagon yn gallu gwneud i'r claf chwydu, ac felly dylech roi'r claf ar ei ochr ar ôl y pigiad. Unwaith y bydd yn ymwybodol unwaith eto, rhowch fwyd a diod i'r claf (gweler y daflen ar hypoglycemia).
A oes rhai mathau o inswlin yn fwy tebygol o achosi hypos?
Fe allai unrhyw fath o inswlin achosi hypo. Fel arfer, mae inswlin dynol a'r inswlin sy'n gweithio'n gyflym yn fwy tebygol o ostwng lefelau siwgr gwaed yn gyflym.
Beth os ydw i'n cael hypo pan fydd hi'n amser cael fy mhigiad?
Mae'n anodd rhoi cyngor manwl ynglyn â'r sefyllfa hon oherwydd mae yna nifer o ffactorau sy'n gallu bod yn berthnasol. Fel rheol gyffredinol, gwnewch yn siwr bod eich lefelau glwcos gwaed yn mynd yn ôl i'r lefel normal. Yna, fe allwch gymryd dos llai o inswlin a'ch pryd bwyd arferol. Peidiwch â cholli eich dos inswlin oherwydd mae hyn yn debygol o arwain at newid sylweddol yn eich lefelau glwcos gwaed.
Hypoglycemia rheolaidd
Os ydych yn cael hypos rheolaidd, ewch i weld eich meddyg neu nyrs diabetes. Weithiau, fe all fod yn anodd datrys problem hypoglycemia sy'n rheolaidd. Fe all yr achos fod yn un neu fwy o'r canlynol:
. mynd heb fwyd
. alcohol
. ymarfer corff
. techneg anghywir wrth chwistrellu
. ddim yn ymwybodol o'r hypoglycemia (colli'r symptomau rhybudd)
Hypoglycemia a gyrru
Os ydych yn gyrru, dylech stopio eich cerbyd mor ddiogel â phosib cyn gynted ag sy'n bosib. Cymerwch dabled glwcos neu ddiod glwcos
Tynnwch yr allwedd allan a symudwch at sedd y teithiwr. Os ydych ar y Draffordd, gadewch eich car gyda'r goleuadau rhybudd ymlaen ac ewch i fan diogel.
Darllenwch y daflen ar Diabetes a Gyrru am gyngor mwy manwl ar ddiabetes a gyrru
Hypoglycemia yn ystod y nos
Mae hypos yn gallu digwydd ar unrhyw adeg o'r dydd, ond maen nhw'n achosi mwy o bryder i bobl sydd â diabetes pan fyddan nhw'n digwydd yn y nos.
Mae rhai pigiadau inswlin a roddir cyn mynd i'r gwely yn dueddol o roi lefelau gwaed uchel yn ystod oriau bach y bore ac felly mae yna ostyngiad amlwg yn y lefelau glwcos gwaed. Fe all yfed alcohol cyn mynd i'r gwely, yn enwedig ar stumog gwag, hefyd fod yn ffactor.
Fe all hypoglycemia yn y nos wneud i chi ddihuno'n chwysu, teimlo'n grynedig, cael dychlamiadau neu deimlo'n oer. Efallai y cewch ben tost yn gynnar yn y bore.
Y ffordd ddelfrydol o gadarnhau eich bod yn cael hypos yn ystod y nos yw mesur eich glwcos gwaed yn y nos. Dylech osod eich cloc larwm i'ch dihuno rhwng 2 a 4 y bore fel y gallwch fesur eich lefelau siwgr gwaed.
Yn anffodus, nid yw eich crynoadau gwaed adeg mynd i'r gwely yn ddigon dibynadwy i ddangos y risg o hypos yn hwyrach yn ystod y nos.
Fel arfer caiff y broblem ei datrys trwy newid eich diet neu ddos inswlin. Fe allai hyn olygu gostwng eich dos cyn mynd i'r gwely, bwyta rhywbeth adeg mynd i'r gwely neu newid y math o inswlin yr ydych yn ei gymryd cyn mynd i'r gwely.



