Diabetes yn y Deyrnas Unedig
Mae 1.4 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu diagnosio â diabetes. Mae hyn yn cynrychioli tua 3 person ymhob 100. Credir bod o leiaf un miliwn arall sydd heb eu diagnosio eto.
Mae'r niferoedd yn cynyddu ar draws y byd ac, yn aml, cyfeirir at hyn fel 'epidemig diabetes byd-eang'. Amcangyfrifir y bydd y nifer o bobl sydd â diabetes yn codi i 3 miliwn erbyn y flwyddyn 2010. Mae hyn yn bennaf am fod pobl yn byw yn hirach, yn eistedd llawer ac yn bwyta mwy nag sydd angen arnynt i gael egni.
Fe fydd Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn cael ei gweithredu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau gwelliannau mewn gofal diabetes ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r meysydd y mae'r fframwaith yn eu hystyried yn cynnwys:
. atal a chanfod diabetes math 2 yn gynnar
. ymbweru pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr eu hunain
. gwella gofal clinigol, gan gynnwys cynlluniau gofal a chofnodion y mae'r claf yn eu cadw
. canfod a rheoli cymhlethdodau diabetig yn gynnar
. trin diabetes yn well yn ystod cyfnodau yn yr ysbyty
. iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer y rheiny sydd ei angen
Am wybodaeth ynglyn â'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, cliciwch ar: www.wales.nhs.uk/nsf



