Maint:

Diagnosio Diabetes

Sut mae'n cael ei ddiagnosio?

Pwy ddylai gael prawf gwaed?

Profi eich gwaed

Beth y Prawf Goddefiad Glwcos (Glucose Tolerance Test )?

 

Sut mae'n cael ei ddiagnosio?

Gwneir y diagnosis trwy ddangos crynhoad siwgr uchel yn eich gwaed. Efallai y bydd angen i chi gael sampl gwaed tra'ch bod yn ymprydio. Neu, yn llai cyffredin, efallai y bydd angen i chi gael prawf goddefiad glwcos.

 

Pwy ddylai gael prawf gwaed?

Mae rhai ffactorau penodol yn eich gosod chi mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes nag eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:
. Heneiddio
. Pwyso mwy na'r pwysau delfrydol
. Pwysedd gwaed uchel
. Colesterol uchel
. Hanes o ddiabetes yn y teulu
. Hanes personol o drawiad ar y galon, angina neu strôc
. Hanes personol o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd blaenorol
Os oes gennych unrhyw symptomau diabetes, neu os ydych yn teimlo eich bod chi mewn perygl o gael diabetes ac y dylech gael prawf gwaed er mwyn sicrhau nad oes diabetes arnoch, trafodwch hyn gyda'ch Meddyg Teulu neu Nyrs y Practis.

 

Profi eich gwaed

Mae lefel y glwcos yn eich gwaed yn amrywio trwy'r dydd. Mae sampl gwaed a gymerir peth cyntaf yn y bore cyn brecwast yn rhoi crynhoad 'glwcos ymprydio' ( fasting glucose ).
Gellir cymryd 'Hap-sampl glwcos' ( random glucose ) ar unrhyw adeg ac mae'n ystyried eich bod wedi bwyta'n ddiweddar.
Fe fyddai'r canlyniadau canlynol yn awgrymu bod gennych diabetes:
. Glwcos Ymprydio sy'n fwy na 7.0 mmol/l
. Hap-sampl glwcos sy'n fwy na 11.1 mmol/l
Os yw'r profion yn cadarnhau eich bod yn dioddef o diabetes, fe fydd eich meddyg yn trafod yr opsiynau triniaeth perthnasol gyda chi ac yn eich cyflwyno chi i dîm o bobl a fydd yn eich helpu i reoli eich diabetes.

 

Beth y Prawf Goddefiad Glwcos?

Os nad ydyw'ch canlyniadau gwaed glwcos ymprydio yn ddigon uchel i chi fod yn dioddef o ddiabetes, ond mae'n uwch na 6.0 yna mae'n bosib fod gennych ffurf cynnar y clefyd sef Glycemia Ymprydio Amharedig ( Impaired Fasting Glycaemia ). Weithiau, defnyddir prawf pellach, y 'Prawf Goddefiad Glwcos' neu Glucose Tolerance Test i fesur pa mor dda y mae eich corff yn delio gyda glwcos. Yn y prawf hwn, mae lefelau glwcos gwaed yn cael eu mesur ddwy awr wedi i chi yfed diod glwcos, sy'n cynnwys 75 gm o glwcos. Mae lefel gwaed glwcos o llai na 7.8 ar ôl dwy awr yn awgrymu canlyniad normal ond mae lefel sy'n uwch na 11.1 mmol/l yn cadarnhau diabetes. Mae lefel ar ôl dwy awr sydd rhwng y gwerthoedd hyn yn awgrymu bod yna fath cynnar o'r broblem, sef Goddefiad Glwcos Amharedig ( Impaired Glucose Tolerance ).