Diabetes a Phwysedd Gwaed
Beth yw pwysedd gwaed uchel ( Hypertension )?
Beth yw peryglon pwysedd gwaed uchel?
Beth yw y pwysedd gwaed arferol?
Beth yw manteision a pheryglon triniaeth?
Beth yw Pwysedd Gwaed Uchel ( Hypertension )?
Mae'r galon yn pwmpio gwaed o amgylch llestri gwaed (arterïau) y corff. Mae gwaed pob un yn cael ei bwmpio o amgylch ar bwysedd arbennig ac mae'r pwysedd yma'n amrywio o berson i berson, ac o fewn yr un person ar adegau gwahanol o'r dydd ac o dan wahanol amgylchiadau. Gyda phwysedd gwaed uchel, mae'r pwysedd yn y llestri gwaed hyn yn rhy uchel. Os yw'r pwysedd yn uchel mae'n rhaid i'ch calon weithio'n fwy caled i gynnal llif y gwaed o amgylch eich corff. Dros gyfnod o amser, mae'r straen yma'n cael effaith.
Fel arfer, mae'r pwysedd gwaed yn is pan fyddwch chi'n gorffwys neu'n cysgu ac fe fydd yn uwch yn ystod gweithgarwch. Mae'r lefel a dderbynnir fel lefel pwysedd gwaed "normal" yn un sy'n syrthio o fewn amrywiaeth sydd wedi'i seilio ar bwysedd gwaed cyfartalog y rhan fwyaf o bobl. Wrth i bobl dyfu'n hyn, mae 'amrywiaeth normal' y pwysedd gwaed yn codi'n araf.
Mae gweithgarwch pwmpio'r galon yn cynhyrchu ton o bwysedd gwaed. Enw uchder y don yw pwysedd systolaidd a gwaelod y don yw'r pwysedd diastolaidd. Fe fyddwch wedi gweld teclyn mesur pwysedd gwaed (sphygmomanometr) sy'n defnyddio colofn o arian byw. Yn draddodiadol, caiff pwysedd gwaed ei fesur fel uchder y golofn arian byw mewn milimetrau (mmHg).
Fel arfer, nid yw pwysedd gwaed uchel yn achosi symptomau yn ei hun ond fe all arwain at niwed i organau gwahanol yn y corff os yw'r pwysedd gwaed yn aros yn uchel am gyfnod hir o amser. Dros nifer o flynyddoedd, fe all arwain at niwed i'r galon a'r llestri gwaed, gan ei wneud yn fwy tebygol i'r unigolyn gael strôc neu drawiad ar y galon.
Weithiau, yn enwedig pan fydd y pwysedd gwaed yn uchel iawn, fe all yr unigolyn gael pendro, pen tost neu sylwi ar wahaniaeth yn ei (g)allu i weld. Nid yw'r symptomau yn rhai arferol ac fe allai fod yn ganlyniad i rhesymau eraill.
Unwaith y caiff ei ddiagnosio, mae pwysedd gwaed uchel, fel diabetes, yn gyflwr sy'n aros gyda chi am weddill eich bywyd. Mae'n bosib ei rheoli ond anaml iawn y bydd yn diflannu,
Beth yw peryglon pwysedd gwaed uchel?
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â diabetes bwysedd gwaed uchel. Mae pwysedd gwaed uchel sydd heb ei drin yn gallu cynyddu'r risg o strôc a thrawiad ar y galon hyn yn oed mewn pobl sydd ddim â diabetes. Gall hefyd gynyddu eich risg o gael cymhlethdodau eraill sy'n gysylltiedig â diabetes. Fel arfer maen nhw'n ymwneud â'ch llygaid a'ch arennau sy'n fwy agored i niwed gyda phwysedd gwaed uchel sydd heb ei drin. Y newyddion da yw bod ymchwil diweddar wedi dangos yn glir bod trin pwysedd gwaed uchel yn gostwng y risg o drawiad ar y galon a chymhlethdodau eraill sy'n gysylltiedig â diabetes. Erbyn hyn, rydyn ni'n derbyn bod rheoli pwysedd gwaed yr un mor bwysig â rheoli siwgr gwaed mewn pobl sydd â diabetes.
Beth alla i wneud i helpu?
. Os ydych chi'n pwyso mwy na'r pwysau delfrydol, ceisiwch golli pwysau.
. Os ydych chi'n ysmygu RHOWCH ORAU I'R YSMYGU. (Mae ysmygu yn ychwanegu'n sylweddol at y risg o ddioddef trawiad ar y galon neu strôc)
. Mae ymarfer corff yn helpu - o leiaf 30 munud o ymarfer corff parhaus dair gwaith yr wythnos.
. Peidiwch ag ychwanegu halen at y bwyd wrth y bwrdd a defnyddiwch lai o halen wrth goginio.
. Ceisiwch yfed llai na 21 uned o alcohol yr wythnos os ydych yn ddyn neu 14 uned os ydych yn fenyw. (A dweud y gwir, fe allai un uned y dydd helpu'r cylchrediad, ond fe all fwy na hyn godi eich pwysedd gwaed.)
. Glynwch at fwyd iach - diet sy'n isel mewn braster gyda mwy o ffibr (digon o ffrwythau a llysiau).
. Os ydych wedi cael meddyginiaeth wedi'i bresgreibio, cofiwch ei gymryd yn rheolaidd. Mae llawer o gleifion sydd â phwysedd gwaed uchel yn anghofio cymryd eu tabledi.
. Os ydych yn dioddef o diabetes ac nid ydych yn gwybod eich pwysedd gwaed, gofynnwch i Nyrs y Practis neu'r meddyg i'w gymryd i chi. Os ydyw'n uchel, gofynnwch beth ddylai'r pwysedd gwaed 'delfrydol' neu 'darged' fod a cheisiwch gyrraedd y lefelau yma.
Beth yw y pwysedd gwaed arferol?
Mae pwysedd gwaed yn amrywio o berson i berson. Mae hefyd yn amrywio yn ystod y dydd gan ddibynnu ar eich lefel o weithgarwch a phwysedd ( stress ). Yn aml, mae gan gleifion sy'n mynd i glinigau ysbytai bwysedd gwaed uchel am eu bod nhw'n poeni am fynd i'r clinig ac efallai hefyd oherwydd y drafferth o barcio eu car! Os ydyw'ch pwysedd gwaed systolaidd yn uwch na 140 mmHg drwy'r amser neu os yw eich pwysedd gwaed diastolaidd yn uwch na 90 mmHg drwy'r amser, mae eich meddyg yn debygol o'ch dechrau ar rhyw fath o driniaeth.
Beth yw manteision a pheryglon triniaeth?
Trwy gyrraedd pwysedd gwaed targed o 140/80 mmHg neu lai, mae'r perygl o gael trawiad ar y galon, strôc, clefyd diabetig y llygad a chlefyd diabetig yr arennau dipyn yn llai. Mae'r corff yn cymryd y rhan fwyaf o gyffuriau sy'n gostwng pwysedd gwaed yn dda ac, fel arfer, mae'n bosib dewis cyffuriau sydd â pherygl isel o sgil-effeithiau.
Am fwy o wybodaeth
Ewch at yr adran sy'n cynnwys gwybodaeth ynglyn â chyffuriau am fwy o fanylion ar feddyginiaeth sy'n gostwng pwysedd gwaed uchel.
Cliciwch ar wefan Cymdeithas Pwysedd Gwaed Prydain, sef:
http://www.hyp.ac.uk/bhs



