Colesterol
Pam mae lefel uchel o golesterol yn wael?
Beth yw'r lefel colesterol arferol?
A fydd gostwng fy ngholesterol yn atal problemau gyda'r galon?
Dw i ddim yn or-hoff o dabledi. A fydd diet yn ddigon?
Sut mae colesterol gwaed uchel yn cael ei drin?
Beth yw Colesterol
Mae colesterol yn fath o fraster sy'n cael ei gynhyrchu o fewn y corff. Mae hefyd i'w gael yn y diet, fel rhan o 'fraster anifeiliaid' fel menyn, caws a chigoedd. Rydyn ni angen colesterol ar gyfer ein bywyd bob dydd... ond gormod o ddim nid yw'n dda.
Pam mae lefel uchel o golesterol yn wael?
Os oes gormod o golesterol yn eich gwaed, mae'n newid i mewn i gramennau o fraster yn eich llestri gwaed, neu 'atheroma'. Mae hyn yn cynyddu eich risg o gael angina, trawiad ar y galon, strôc a phroblemau yn ymwneud â'r cylchrediad. Pan fydd y cramennau braster yn mynd yn rhy fawr, maen nhw'n gallu blocio llestri gwaed bach, gan achosi niwed. Mae astudiaethau a gynhaliwyd gyda nifer fawr o bobl wedi dangos bod pobl sydd â lefelau uwch o golesterol yn eu gwaed yn dueddol o ddioddef o glefyd coronol y galon yn fwy aml.
Beth yw'r lefel colesterol arferol?
Nid oes un lefel 'normal' ar gyfer colesterol. Mae'r ffordd yr ydym yn ystyried eich crynhoad colesterol yn dibynnu ar eich oed, rhyw, pwysedd gwaed ac a ydych chi'n ysmygu. Mae hefyd yn dibynnu a oes gennych chi ddiabetes neu angina yn barod, neu a ydych chi wedi cael trawiad ar y galon o'r blaen. Os ydyw un o'r rhain yn wir yn eich achos chi, yna dylai fod gennych lefel colesterol o lai na 5 mmol/l, gorau po isaf.
A fydd gostwng fy ngholesterol yn atal problemau gyda'r galon?
Bydd. Mae llawer o astudiaethau ymchwil graddfa fawr sydd wedi defnyddio miloedd o wirfoddolwyr wedi dangos bod hyn yn wir. Mae hefyd yn bwysig rhoi sylw i ffactorau risg eraill, fel pwysedd gwaed uchel ac ysmygu. Mae newid ffordd o fyw, er enghraifft diet ac ymarfer corff hefyd yn helpu. Mae pobl sydd wedi cael trawiad ar y galon yn barod mewn mwy o berygl o gael trawiad arall. Fe fydd gostwng eich colesterol trwy ddefnyddio 'cyffur statin' yn gostwng y perygl o gael trawiad arall ar y galon yn sylweddol.
Dw i ddim yn or-hoff o dabledi, a fydd diet yn ddigon?
Yn sicr, mae diet yn bwysig o ran rheoli eich colesterol. Fe allai diet iach ostwng eich crynoadau colesterol 5-10% ar y mwyaf. Ond, os ydyw'ch lefelau yn rhy uchel i ddechrau, yna nid ydyw'n debygol y bydd mynd ar ddiet yn gwneud gwahaniaeth mawr. Cyfuniad o ddiet a thabledi sy'n gweithio orau. Efallai y byddwch wedi clywed am y termau 'braster dirlawn' neu ' saturated fat ' a braster aml-annirlawn neu ' polyunsaturated fat '. Yn gyffredinol, mae mwy o fraster dirlawn yn y diet yn helpu codi lefel y colesterol yn y gwaed ac mae mwy o fraster aml-annirlawn yn helpu gostwng colesterol.
Sut mae colesterol gwaed uchel yn cael ei drin?
Y statinau yw'r prif grwp o feddyginiaethau sy'n gostwng colesterol. Enwau aelodau'r grwp yw Simvastatin, Atorvastatin, Fluvastatin, Pravastatin a Rosuvastatin. Gan bod y corff yn cynhyrchu mwy o golesterol yn ystod y nos, mae'n well cymryd y meddyginiaethau hyn gyda'r hwyr . Fel arfer, mae statinau yn ddiogel ac nid ydyn nhw'n achosi unrhyw sgil-effeithiau mawr yn y rhan fwyaf o gleifion. Os ydych chi'n cael cramp, poen neu wendid yn y cyhyrau tra'n cymryd y tabledi hyn, dywedwch wrth eich meddyg.



