Blaen-Ddiabetes
Cyngor ar gyfer gwneud mwy o weithgarwch corfforol
Beth yw Blaen-ddiabetes?
Erbyn hyn, rydyn ni'n gwybod, cyn datblygu diabetes math 2 fod pobl yn mynd trwy gam lle nad yw'r ffordd y mae'r corff yn delio â glwcos yn weddol normal. Rydyn ni wedi galw'r term yma yn "Blaen-ddiabetes" oherwydd mae yna fwy o risg o fynd ymlaen i ddatblygu diabetes math 2 (a chlefyd y galon). Mae blaen-ddiabetes yn bresennol pan fydd naill ai:
. glwcos gwaed ymprydio yn 6.1-7 mmol/l (glycemia ymprydio amharedig), neu
. lefel gwaed ar ôl dwy awr mewn prawf goddefiad glwcos, lle byddwch yn llyncu glwcos fel rhan o'r prawf, rhwng 7.8 a 11.1 (goddefiad glwcos amharedig).
Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu os oes gennych flaen-ddiabetes y gallwch ostwng y risg o gael diabetes math 2 trwy golli peth pwysau a thrwy ymarfer corff.
A oed modd atal diabetes?
Maen nhw wedi bod yn pendrymu ynglyn â'r cwestiwn a oes modd atal diabetes mellitus ers nifer o flynyddoedd. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos peth gobaith.
Roedd y Rhaglen Atal Diabetes yn astudiaeth fawr yn America a fu'n edrych ar dros 3,000 o bobl a oedd â risg uchel o diabetes. Dangosodd y canlyniadau fod diet a cholli pwysau sy'n golygu colli 5-7% o'ch pwysau yn gallu gohirio, a hyd yn oed atal, diabetes math 2 rhag datblygu.
Roedd y bobl a fu'n cymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil yma yn pwyso mwy na'r pwysau delfrydol ac roedd ganddynt oddefiad glwcos amharedig, ond nid diabetes. Fe fu'r astudiaeth yn profi effeithiau newid mewn ffordd o fyw (diet iach ac ymarfer corff), a dylanwad y cyffur diabetes metformin. Dangosodd y canlyniadau fod y grwp o bobl a newidiodd eu ffordd o fyw gan golli 6% o'u pwysau, wedi gostwng y risg o gael diabetes math 2 58 y cant. Roedd y rheiny a gymerodd metformin wedi gostwng y risg 31 y cant.
Sut ydw i'n gostwng fy risg?
. Ymarfer corff erobig rheolaidd
. Gostwng faint o fraster yr ydych yn ei fwyta yn ogystal â chyfanswm y calorïau yr ydych yn eu bwyta
. Gofynnwch i'r meddyg i roi cyngor i chi ar bwysau delfrydol eich corff. Os ydych yn pwyso mwy na'r pwysau delfrydol, ceisiwch golli pwysau at y lefel yma ac yna cynnal eich pwysau delfrydol.
. Cynnal ffordd o fyw gweithgar. Er enghraifft, cerddwch neu seiclwch i'r gwaith; pan fyddwch chi yn y gwaith defnyddiwch y grisiau yn hytrach na defnyddio'r lifftiau.
. Ceisiwch wella eich iechyd cyffredinol trwy gadw eich colesterol a'ch pwysau gwaed yn normal. Ceisiwch osgoi ysmygu.
Cyngor ar gyfer gwneud mwy o weithgarwch corfforol
. Cerddwch neu seiclwch i'r gwaith os yn bosib
. Defnyddiwch y grisiau yn lle defnyddio'r lifftiau yn y gwaith
. Cadwch gofnod o'ch gweithgarwch corfforol. Os ydych chi mewn swydd lle rydych chi'n eistedd llawer, fe fyddwch yn rhyfeddu cyn lleied o weithgarwch egnïol yr ydych yn ei wneud ar ddiwrnod arferol!



