Maint:

Cyffuriau

Cyflwyniad

Tabledi i drin Diabetes Math 2

Cyffuriau a phwysedd gwaed

Aspirin

 

Cyflwyniad

Yn aml, mae pobl sydd â diabetes math 2 yn cael presgripsiwn gan eu meddyg ar gyfer nifer o dabledi. Mae'r rhain yn cynnwys tabledi i ostwng siwgr gwaed, pwysedd gwaed, colesterol a chyffuriau i ostwng y risg o gael trawiad ar y galon neu strôc. Mae rhai'n teimlo bod hyn yn eu drysu nhw ac maen nhw'n cael trafferth cofio a ydyn nhw wedi cymryd eu meddyginiaeth bob dydd. Mae rhai'n dewis peidio â chymryd ambell ddos, yn enwedig am nad ydyw cymryd rhai o'r cyffuriau yn gwella sut maen nhw'n teimlo.
Dewch i adnabod eich cyffuriau, wedi'r cyfan, ddylech chi ddim fod yn llyncu unrhyw beth heb wybod beth mae'n ei wneud! Dylech fod yn gallu adnabod eich tabledi wrth eu henwau a chofio'r ddos os yn bosib. Cariwch rhestr o'ch meddyginiaeth yn eich pwrs; yn aml fe fydd hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n mynd i glinigau.
Cymerwch eich tabledi yn rheolaidd. Os ydych yn gorfod cymryd llawer o dabledi a chithau'n dueddol o anghofio'r dosys, gofynnwch i'ch fferyllydd am flwch doset.
Os nad ydyw rhai o'r tabledi'n cytuno â chi, dywedwch wrth eich meddyg.
Darganfyddwch beth yw sgil-effeithiau cyffredin eich meddyginiaeth. Mae rhai triniaethau angen prawf gwaed bob nawr ag yn y man i brofi sut mae eich aren neu afu yn gweithio. Ceisiwch atgoffa eich meddyg pan fydd hi'n amser cael y profion hyn. Darganfyddwch beth yw'r targedau y mae angen i chi anelu atyn nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer pwysedd gwaed, colesterol a lefelau glwcos.

 

Tabledi i drin Diabetes Math 2

Mae'r sulphonylureas yn gweithio trwy annog y pancreas i ryddhau inswlin. Enghreifftiau o'r grwp yma yw gliclazide a glipizide. Maen nhw'n dueddol o fod yn fwy effeithiol mewn pobl sydd newydd gael eu diagnosio â diabetes. Efallai y gallan nhw achosi hypoglycemia o bryd i'w gilydd.

Mae Metformin yn gostwng faint o glwcos y mae'r afu'n ei gynhyrchu ac yn codi'r swm o glwcos y mae celloedd y corff yn ei ddefnyddio. Nid ydyw'n annog y pancreas i ryddhau inswlin. Dyma'r dewis cyntaf o gyffur ar gyfer pobl â diabetes sy'n pwyso mwy na'r pwysau delfrydol. Mae sgil-effeithiau'n cynnwys abdomen anghyffyrddus ac ysgarthion rhydd, ond fel arfer mae'n bosib osgoi hyn trwy ddechrau ar ddos isel a chynyddu'n raddol.

Mae'r glitazones yn gwneud eich corff yn fwy sensitif i inswlin. Mewn geiriau eraill mae'n gwneud i'r inswlin sydd ar gael yn eich corff i weithio'n fwy effeithiol. Enghreifftiau o'r grwp hyn yw rosiglitazone a pioglitazone. Gyda'r rhain hefyd, mae angen cadw llygad ar eich afu o bryd i'w gilydd.

Mae'r rhyddhawyr glwcos ciniawol (prandial glucose releasers) hefyd yn annog y corff i ryddhau inswlin. Maen nhw'n wahanol i'r sulphonylureas oherwydd maen nhw'n cael effaith sydyn iawn ac yn gweithio dros gyfnod byr o amser. Mae angen eu cymryd adeg pryd bwyd ac ni ddylech eu cymryd os ydych chi'n mynd heb eich pryd bwyd. Enghreifftiau o'r rhain yw repaglinide a nateglinide.

Mae Acarbose yn gweithio trwy flocio ensym yn y coluddyn. Mae hyn yn ymestyn yr amser y mae'n ei gymryd i'r corff amsugno starts a siwgr yn y diet. Mae'r effaith ar lefel glwcos y gwaed yn fach ac mae'n gallu eich gwneud chi'n wyntog!

Yn aml, mae angen rhoi'r tabledi gostwng glwcos uchod fel cyfuniad o ddau neu dri math er mwyn cael rheolaeth dda o'r lefelau glwcos gwaed.

 

Cyffuriau ar gyfer pwysedd gwaed

Yn aml, atalyddion ACE yw'r dewis cyntaf ar gyfer trin pwysedd gwaed uchel mewn pobl sydd â diabetes. Mae hyn am fod ganddynt rôl ddefnyddiol hefyd mewn gwarchod y galon a'r arennau rhag niwed. Enghreifftiau yw ramipril, lisinopril, perindopril, enalapril a trandolapril. Mae'r sgil-effeithiau posib yn cynnwys peswch sych ond mae'r corff yn goddef y cyffuriau hyn yn weddol dda.

Fodd bynnag, mae diwretig yn gostwng y pwysedd gwaed trwy gynyddu faint o halen y mae'r arennau yn cael ei wared. Enghreifftiau yw frusemide, bumetanide a bendrofluazide. Mae'r cyffuriau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i drin coesau sydd wedi chwyddo, symptom sy'n bosib gyda phall ar y galon.

Mae gwrthwynebwyr calsiwm yn ddefnyddiol i drin angina yn ogystal â phwysedd gwaed uchel. Weithiau, maen nhw'n achosi pyliau o wres ac yn gwneud i'r corff ddal dwr. Enghreifftiau yw amlodipine, nifedipine, verapamil, diltiazem a lacidipine.

Mae blocwyr alpha yn grwp arall o gyffuriau sy'n gostwng pwysedd gwaed. Maen nhw'n cynnwys doxazosin a prazosin. Weithiau maen nhw'n gwneud i'r corff ddal dwr.

Mae blocwyr beta yn cael eu defnyddio i drin pwysedd gwaed uchel, angina a rhythmau anarferol y galon. Mae blocwyr beta sy'n cael eu ddefnyddio'n aml yn cynnwys atenolol, bisoprolol, metoprolol a sotalol. Mae sgil-effeithiau posib yn cynnwys gwichian ( wheezing ), dwylo a thraed oer, pendro a blinder.
Yn aml, caiff gwrthwynebwyr Angiotensin II eu defnyddio yn lle atalyddion ACE. Enghreifftiau yw losartan, valsartan a candesartan.

Fel gyda thabledi sy'n gostwng glwcos gwaed, yn aml mae angen cymryd cyfuniad o ddau neu fwy o gyffuriau sy'n gostwng pwysedd gwaed i reoli'r pwysedd gwaed yn dda.

 

Aspirin

Aspirin yw un o'r cyffuriau hynaf sy'n dal i gael eu defnyddio yn y proffesiwn meddygol. Er ei fod wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth i drin poenau, twymyn a phen tost, erbyn hyn caiff ei ddefnyddio'n bennaf i atal clefyd cardiofasgwlar gan gynnwys trawiad ar y galon, strôc, a chulhau'r arterïau (cylchrediad gwael) ym mhob rhan o'r corff. Mae Aspirin yn cael effaith bwysig ar blatennau'r gwaed. Gronynnau cell bach iawn sy'n helpu i ffurfio clotiau yw platennau ( platelets) . Mae Aspirin yn gwneud y platennau'n llai gludiog ac felly maen nhw'n llai tebygol o lynu at ei gilydd i ffurfio clot. Mae astudiaethau pwysig wedi dangos bod Aspirin yn gwneud lles wrth atal y problemau cardiofasgwlar hyn mewn pobl sydd â diabetes sydd mewn perygl o gael clefyd cardiofasgwlar. Yn aml, rydyn ni'n cyfeirio at Aspirin a ddefnyddir yn y ffordd yma fel 'therapi gwrth blatennau'.
Dim ond 75-150 mg o Aspirin y dydd sydd angen, ond fe all weithiau achosi llosg cylla ( heartburn ) ac fe all hyd yn oed wneud i leinin y stumog neu wlser duodenaidd waedu. Mae math enterig o Aspirin sydd wedi'i orchuddio ar gael ac mae'n fwy caredig i'ch stumog.