Maint:

Cwis Deall Diabetes

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Aondd


1. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn wir gyda phwysedd gwaed uchel?
a) Mae'n digwydd yn aml ymhlith pobl sydd â diabetes
b) Mae'n achosi leinin mewnol llestri gwaed i gennu ( fur up )
c) Mae'n ymateb yn dda i ddiet sy'n uchel mewn halen
d) Fel arfer, mae angen triniaeth gydag un neu fwy o feddyginiaethau rheolaidd

2. Pa un o'r datganiadau isod sy'n wir am golesterol gwaed uchel?
a) Mae'n amddiffyn yn erbyn clefyd coronol y galon
b) Nis yw'n digwydd yn aml gyda diabetes
c) Fel arfer mae angen triniaeth gyda chyffuriau o'r enw statinau
d) Fe allai wella gyda diet sy'n uchel mewn cynnyrch llaeth

3. Pa un o'r datganiadau isod ynglyn â thabledi sy'n gostwng lefelau glwcos gwaed sy'n anghywir?
a) Mae Gliclazide yn gallu achosi hypoglycemia weithiau
b) Ni ddylid rhoi Metformin a Gliclazide gyda'i gilydd
c) Mae Metformin yn gweithio trwy ostwng gwrthwynebiad y corff i'r inswlin
d) Gellir monitro sut mae'r corff yn ymateb i'r driniaeth trwy gadw llygad ar y lefel glwcos ymprydio

4. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn wir gyda blaen-ddiabetes?
a) Mae lefelau glwcos gwaed yn anarferol ond nid ydynt o fewn yr amrediad diabetig
b) Fe allai ddatblygu yn ddiabetes
c) Mae'r risg o ddatblygu diabetes yn gostwng wrth golli pwysau a gwneud mwy o ymarfer corff
d) Mae peidio ag yfed alcohol yn driniaeth effeithiol

5. Pa un o'r dosbarthiadau canlynol o gyffuriau sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i drin pwysedd gwaed uchel?
a) Diuretic
b) Atalyddion ACE
c) Statinau
d) Blocwyr Beta