Maint:
Nodwch Ba mor Hawdd/Anodd: - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Mae symptomau diabetes sydd heb ei drin yn cynnwys pa un o'r canlynol: a) Diffyg anadl b) Chwyddo yn y coesau c) Mwy o syched d) Dychlamiadau'r galon
2. un o'r canlynol sydd ddim yn berthnasol i ddiabetes math 1? a) Caiff ei achosi gan ddiffyg inswlin b) Fe all ddatblygu mewn plant neu oedolion ifainc c) Mae'n datblygu o ganlyniad i bwyso mwy na'r pwysau delfrydol d) Mae angen triniaeth inswlin er mwyn goroesi
3. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn berthnasol i brawf glwcos gwaed ymprydio ar gyfer diabetes? a) Mae lefel uwch na 7 mmol/l yn cadarnhau diabetes b) Dylid cymryd y sampl gwaed yn syth ar ôl brecwast c) Caiff ei argymell ar gyfer pobl sydd â hanes o ddiabetes yn y teulu d) Dylid ei wneud os oes hanes personol o glefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel
4. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn symptom hypoglycaemia? a) Cryndod b) Dychlamiadau c) Diffyg anadl d) Pendro
5. Pa un o'r canlynol allai gael eu niweidio o ganlyniad i ddiabetes? a) Afu b) Ysgyfaint c) Arennau d) Mêr yr esgyrn