Maint:
Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Pa un o'r canlynol sy'n berthnasol i diabetes? a) Mae'r nifer o bobl sydd â diabetes yn gostwng b) Mae pobl sydd â diabetes yn llai tebygol o gael clefyd y galon c) Fel arfer, mae pobl sydd â diabetes yn pwyso llai na'r pwysau delfrydol d) Fel arfer, mae'r lefelau glwcos gwaed yn uwch gyda diabetes
2. Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n wir am bobl sydd â diabetes math 1? a) Fel arfer gellir ei drin gyda thabledi b) Mae'r cyflwr yn dod i'r amlwg ymhlith grwpiau oedran hynach fel arfer c) Mae'n fwy cyffredin na diabetes math 2 d) Mae'r driniaeth yn golygu pigiadau inswlin
3. Pa un o'r canlynol sy'n golygu glwcos gwaed isel? a) Hypertension b) Hypothermia c) Hyperglycaemia d) Hypoglycaemia
4. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn wir mewn diabetes math 2? a) Fel arfer, mae'n dod i'r amlwg ymhlith pobl ganol oed neu oedrannus b) Mae clefyd y galon yn fwy tebygol o ddatblygu o'i gymharu â phobl sydd ddim â diabetes c) Mae angen triniaeth inswlin o'r dechrau d) Fel arfer mae'n dod i'r amlwg ymhlith pobl sy'n pwyso mwy na'r pwysau delfrydol neu'n ordew
5. Pa un o'r canlynol allai achosi glwcos gwaed isel, neu hypo? a) Bwyta byrbryd b) Anghofio pigiad inswlin c) Gweithgarwch corfforol egnïol d) Yfed diod pefriog ( fizzy )