Maint:
Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Gellir storio inswlin o dan pa un o'r amodau canlynol a) Ar 30°C am o leiaf un mis b) Mewn oergell c) Mewn rhewgell d) Mewn ffiol sydd heb ei agor ar ôl y dyddiad terfyn ( expiry date )
2. Pa un o'r mathau canlynol o inswlin sydd wedi bod ar gael fwyaf diweddar? a) Analogau dynol b) Inswlin dynol c) Inswlin porc d) Inswlin eidion
3. Pa un o'r mathau canlynol o inswlin sy'n gweithredu dros gyfnod hir o amser? a) Actrapid b) Glargine c) Novorapid d) Lispro
4. Pa un o'r mesurau canlynol sy'n ddefnyddiol i atal problemau gyda'r traed? a) Gwisgo esgidiau llac b) Gwisgo rhywbeth ar eich traed drwy'r amser, yn ddelfrydol sanau ac esgidiau c) Cadw'r traed yn gynnes gan ddefnyddio potel ddwr poeth d) Rhoi eich traed mewn padell o ddwr am amser hir bob dydd
5. Pa un o'r canlynol sy'n wir am ddiabetes sy'n datblygu yn ystod beichiogrwydd (diabetes tra'n cario)? a) Fel arfer mae'n cael ei ddiagnosio yn gynnar yn y feichiogrwydd b) Fe allai diabetes parhaol ddatblygu flynyddoedd yn ddiweddarach c) Fel arfer mae angen ei drin gydag inswlin d) Fel arfer caiff triniaeth fel claf mewnol ei argymell