Maint:

Cwis Rheoli Diabetes

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd |Canolig | Anodd


1. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn le addas i chwistrellu inswlin?
a) Cyhyrau croth y goes (calf)
b) Ardal allanol bochau'r pen ôl
c) Y bol o dan yr umbilicws
d) Blaen y cluniau ( thighs )

2. Pa un o'r datganiadau isod sy'n wir am inswlin?
a) Gallwch ei storio ar dymheredd uchel ac mi fydd yn iawn
b) Fel arfer, mae'n dod o ffynhonnell anifail
c) Mae'n gwneud i glwcos fynd i mewn i'r gwaed
d) Mae'n hormon protein

3. Pa un o'r mathau isod o inswlin sy'n cael ei gymryd ddwy waith y dydd fel arfer?
a) Mixtard 30
b) Isophane
c) Actrapid
d) Glargine

4. Nid oes angen podiatreg (trin traed) yn rheolaidd os oes gennych ba un o'r canlynol?
a) Gwelededd gwael
b) Diagnosis diweddar o ddiabetes
c) Diffyg teimlad yn y traed
d) Cylchrediad gwael yn y traed

5. Pan fydd wlser diabetig yn cael ei heintio, pa un o'r canlynol sy'n arwydd nodweddiadol o rhybudd?
a) Mae'r droed yn mynd yn oer
b) Mae'r man o amgylch yr wlser yn mynd yn goch
c) Mae unrhyw beth sy'n cael ei ddadlwytho o'r wlser yn sychu i fyny
d) Mae'r lefelau glwcos gwaed yn dueddol o ostwng