Maint:

Cwis Rheoli Diabetes

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd


1. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn wir ynglyn ag inswlin?
a) Cafodd ei ddarganfod yn 1921
b) Mae'n hormon sy'n cael ei greu gan y pancreas fel arfer
c) Mae'n achosi lefelau glwcos gwaed i godi
d) Roedd yn arfer cael ei echdynnu o ffynonellau anifeiliaid

2. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn berthnasol i'r clinig diabetig?
a) Dylid gwneud gwiriadau ar gyfer cymhlethdodau diabetig bob blwyddyn
b) Dylid gwneud profion gwaed ychydig cyn yr apwyntiad yn y clinig fel arfer
c) Dylai bobl ddod i'r clinig os ydyn nhw'n teimlo bod rhywbeth o'i le yn unig
d) Mae meddyginiaethau yn debygol o gael eu trafod

3. Ym mha un o'r grwpiau diabetig canlynol fyddai monitro glwcos gwaed yn rheolaidd ddim yn cael ei argymell?
a) Pobl â diabetes pan maen nhw'n sâl
b) Pobl â diabetes sy'n cael ei rheoli trwy ddiet
c) Menywod beichiog
d) Gyrwyr

4. Pa un o'r mesurau canlynol sydd ddim yn ddoeth os ydych chi'n teimlo'n sâl?
a) Profi glwcos gwaed yn fwy aml
b) Cynyddu'r hylif yr ydych yn ei yfed
c) Gostwng tabledi neu inswlin
d) Profi'r wrin i chwilio am getonau

5. Pa un o' r canlynol sydd ddim yn wir ynglyn ag wlser traed diabetig?
a) Dylech ddweud wrth eich meddyg neu bodiatrydd amdanynt
b) Fe allai'r wlser gael ei heintio
c) Rydych chi'n fwy tebygol o wella os ydych yn tynnu'r pwysau oddi ar eich traed
d) Maen nhw'n boenus fel arfer