Maint:

Cwis Byw Gyda Diabetes

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd


1. un o'r canlynol sy'n wir ynglyn ag ymarfer corff?
a) Mae'n codi lefelau glwcos gwaed
b) Ni ddylech fwyta bwyd ychwanegol cyn gwneud ymarfer corff
c) Mae'n gwneud i gyhyrau ymddangos yn lle peth o'r braster yn eich corff
d) Mae cyhyrau'n cymryd o leiaf 24 awr i gael yr egni yn ôl ar ôl ymarfer corff

2. Pa un o'r isod y mae pobl sydd â diabetes ac sy'n ysmygu yn fwy tebygol o'i gael?
a) Cymhlethdodau diabetig
b) Glwcos gwaed isel
c) Babanod mawr gyda menywod diabetig sy'n feichiog
d) Magu pwysau

3. Pa un o'r canlynol sy'n wir ynglyn ag effeithiau alcohol mewn pobl sydd â diabetes?
a) Fe allai achosi hyperglycemia
b) Fe allai olygu colli pwysau
c) Mae sherry neu win melys yn well na gwin sych
d) Mae lager alcohol isel yn dueddol o gynnwys mwy o siwgr

4. Pa un o'r canlynol sydd ddim o angenrheidrwydd yn wir os ydych yn cael hypoglycemia wrth yrru?
a) Rhaid dweud wrth y DVLA
b) Stopiwch unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny
c) Cymerwch dabled glwcos neu ddiod melys
d) Tawelwch eich meddwl gan eich bod yn gwybod beth sydd wrth wraidd y broblem

5. Pa un o'r datganiadau canlynol ynglyn â phobl sydd â diabetes a gwyliau sy'n anghywir?
a) Efallai y bydd angen newid amser pigiadau inswlin oherwydd amserau gwahanol mewn gwledydd gwahanol
b) Fe allai tywydd poeth olygu bod hypoglycemia yn fwy tebygol o ddigwydd
c) Fe allai fod mwy o risg o ddatblygu pothelli ar y traed
d) Mae pobl sydd â diabetes â mwy o risg o gael llosg haul