Maint:

Cwis Byw Gyda Diabetes

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd


1. Pa un o'r datganiadau canlynol ynglyn â diabetes a gyrru sy'n wir?
a) Dylech ddweud wrth y DVLA os oes diabetes arnoch, hyd yn oed os ydyw'n cael ei drin gyda diet yn unig
b) Fe allwch ddal trwydded cerbyd masnachol hyd yn oed os ydych yn dechrau cymryd inswlin
c) Dylech fod â chyd-yrrwr yn y cerbyd bob amser
d ) Dylech wastad gario bwyd carbohydrad sy'n gweithio'n gyflym gyda chi yn y car

2. Pa un o'r amgylcheddau gwaith canlynol sydd ddim yn addas os oes diabetes arnoch?
a) Y Gwasanaeth Iechyd
b) Gweithio gartref
c) Gwaith shifft
d) Gwaith lle rydych yn gorfod gyrru

3. Pa un o'r labeli canlynol ar fwyd ddylech chi ei osgoi?
a) Braster isel
b) Siwgr wedi'i ychwanegu
c) Llai o halen
d) Wedi'i gyfoethogi gyda ffibr

4. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn berthnasol i fwyta'n iach mewn diabetes?
a) Mae'n bwysig waeth pa fath o driniaeth yr ydych chi'n ei gael
b) Y nod yw gostwng y risg o gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes
c) Dylai'r diet gynnwys ychydig bach o fwydydd startsh yn unig
d) Dylech anelu at fwyta o leiaf pum darn o ffrwythau neu lysiau y dydd

5. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn ddefnyddiol wrth ostwng pwysau?
a) Mabwysiadu patrwm o fwyta'n iach
b) Gostwng siwgr a braster yn y diet
c) Cynyddu gweithgarwch corfforol
d) Colli pwysau'n gyflym yn lle'n raddol