Maint:
Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd: : - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Pa un o'r datganiadau isod ynglyn â diet sy'n wir? a) Caiff diet iach ei argymell ar gyfer pobl sydd â diabetes yn unig b) Mae diet iach yn helpu gostwng y risg o gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â diabetes c) Nid yw bwydydd sy'n uchel mewn ffibr fel bara grawn cyflawn yn cael eu hargymell d) Mae bwyta siwgr yn well na chael melyswyr os oes diabetes arnoch
2. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau colli pwysau? a) Bwyta prydau rheolaidd b) Gostwng siwgr a braster yn y diet c) Colli prydau bwyd fel eich bod chi eisiau bwyd yn aml d) Cynyddu gweithgareddau fel cerdded, nofio neu seiclo
3. Pa un o'r effeithiau tymor hir canlynol sy'n debygol os ydych chi'n gwneud ymarfer corff cymedrol am hanner awr bob dydd? a) Pwysedd gwaed yn cynyddu b) Glwcos gwaed yn cynyddu c) Esgyrn yn mynd yn fwy bregus d) Gostwng y risg o ddatblygu clefyd y galon
4. Pa un o'r datganiadau isod ynglyn â rhoi'r gorau i ysmygu sy'n anghywir? a) Mae'n gostwng y risg o gymhlethdodau diabetig b) Mae'n gysylltiedig â symptomau rhoi'r gorau iddi c) Mae bob amser yn golygu magu pwysau d) Gellir ei helpu gyda chlytiau neu gwm nicotin
5. Pa un o'r datganiadau isod ynglyn ag alcohol a diabetes sy'n wir? a) Nid yw yfed alcohol wedi'i argymell os oes diabetes arnoch chi b) Fe allai hypoglycemia ac ymddygiad feddwol ymddangos yn debyg c) Fel arfer, dylech wneud ymarfer corff cyn yfed d) Fe allai alcohol eich helpu chi i golli pwysau