Maint:

Cwis Cymhlethdodau

Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd


1. Pa un o'r datganiadau canlynol ynglyn â cetoasidosis sy'n wir?
a) Mae wastad yn dod i'r amlwg mewn pobl sydd wedi cael eu diagnosio gyda diabetes yn barod
b) Mae'n achosi lefelau glwcos gwaed isel iawn a disychu
c) Fel arfer, nid yw'n golygu bod angen mynd i mewn i'r ysbyty
d) Fe allai ddigwydd oherwydd na roddwyd digon o inswlin yn ystod salwch

2. Pa un o'r cymhlethdodau diabetig isod sy'n gysylltiedig â llestri gwaed bach?
a) Retinopathi diabetig
b) Clefyd coronol y galon
c) Strôc
d) Clefyd fasgwlar ymylol

3. Pa un o'r cyflyrau llygad isod sydd ddim yn gysylltiedig â cholli golwg?
a) Cataract
b) Glaucoma
c) Conjunctivitis
d) Retinopathi diabetig

4. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn cael ei effeithio gan niwropatheg awtonomig?
a) Y galon
b) Swyddogaethau rhywiol
c) Mêr yr esgyrn
d) Llwybr treuliad

5. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn cyfrannu at y driniaeth ar gyfer clefyd diabetig yr aren?
a) Rheoli pwysedd gwaed
b) Warfarin
c) Rheoli glwcos gwaed
d) Dialysis