Maint:
Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Pa un o'r canlynol sy'n wir ynglyn â clefyd diabetig y llygad? a) Nid ydyw byth yn bresennol pan fydd diabetes math 2 yn cael ei ddiagnosio ond mae'n datblygu'n nes ymlaen b) Mae'n llai tebygol o ddod i'r amlwg mewn pobl sydd ddim yn rheoli eu diabetes yn dda c) Mae triniaeth laser yn selio llestri gwaed sy'n gollwng ac fe allai'ch atal rhag colli'ch golwg d) Mae cataractau yn anghyffredin mewn pobl sydd â diabetes
2. Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n wir am niwropatheg ymylol diabetig? a) Nid yw'r symptomau'n digwydd yn ystod y nos b) Symptom nodweddiadol yw teimlo pinnau bach yn y traed c) Nid oes triniaeth ar gael i leddfu'r symptomau d) ) Nid yw'r cyflwr yn cael ei effeithio os ydych yn rheoli'r diabetes yn wael
3. Pa un o'r canlynol sy'n wir am glefyd diabetig yr arennau? a) Yr arwydd cyntaf yw symiau mawr o brotein yn gollwng i mewn i'r wrin b) Nid yw ei ddatblygiad yn cael ei effeithio wrth reoli'r ffactorau risg cardiofasgwlar (pwysedd gwaed, cholesterol, glwcos gwaed) yn dda c) Yn y pendraw, fe fydd y rhan fwyaf o bobl sydd â diabetes angen dialysis neu drawsblaniad aren d) Mae atalyddion ACE yn ddefnyddiol i atal y cyflwr rhag symud yn ei flaen
4 Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n wir ynglyn â strôc? a) Mae'n digwydd pan fydd rhydweli sy'n cyflenwi'r ymennydd sydd wedi cennu'n rhannol yn blocio b) Mae'n achosi gwendid neu barlys sydyn ar un ochr o'r corff sydd byth yn barhaol c) Mae triniaethau gweithgar ar gael ar gyfer strôc fel arfer d) Maen nhw yr un mor debygol i ddigwydd i bobl sydd ddim â diabetes
5. Pa un o'r datganiadau canlynol ynglyn â chlefyd fasgwlar ymylol sy'n anghywir? a) Symptom nodweddiadol yw poen yng nghroth y goes ( calf ) wrth gerdded b) Mae pobl sydd â'r cyflwr yma yn fwy tebygol o gael clefyd coronol yn rhydwelïau c) Mae llawdriniaeth ddargyfeiriol yn opsiwn posib fel triniaeth d) Nid yw rheoli glwcos gwaed yn dda yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ddatblygiad y cyflwr hwn