Maint:
Nodwch Ba Mor Hawdd/Anodd : - Hawdd | Canolig | Anodd
1. Pa un o'r canlynol sydd ddim yn un o gymhlethdodau nodweddiadol diabetes? a) Clefyd y galon b) Problemau gyda'r arennau c) Problemau gyda'r coluddyn d) Problemau gyda'r traed
2. Pa rai o'r canlynol sydd ddim yn ffactorau risg ar gyfer datblygu cymhlethdodau diabetig? a) Alcohol b) Pwysedd gwaed uchel c) Colesterol gwaed uchel d) Ysmygu
3 Pa un o'r canlynol sy'n wir ynglyn â chlefyd diabetig y llygad (retinopathi) ? a) Mae'n llai tebygol o ddatblygu ymhlith pobl gyda siwgr gwaed b) Mae'n gyflwr sy'n effeithio ar lens y llygad c) Fe fyddwch yn anochel yn datblygu'r cyflwr hwn os oes diabetes arnoch d) Efallai ei fod gennych er nad ydyw'n effeithio ar eich gallu i weld
4. Pa un o'r canlynol sy'n wir ynglyn â thrafferthion gyda chael codiad ( impotence )? a) Mae'n brin ymhlith dynion sydd â diabetes b) Gellir ei drin gyda chyffuriau fel Viagra c) Mae colli chwant rhywiol yn symptom cynnar d) Prin iawn y mae ffactorau seicolegol yn un o'r achosion wrth wraidd y broblem
5. Pa un o'r canlynol sy'n wir ynglyn â diabetes a chlefyd y galon? a) Mae clefyd y galon yn un o gymhlethdodau anarferol diabetes b) Mae trawiad ar y galon yn cael ei achosi gan glot o waed sy'n ffurfio mewn rhydweli ( artery ) goronol sydd wedi culhau c) Nid yw cymryd aspirin bob dydd yn cael effaith ar y perygl o drawiad ar y galon d) Dim ond lleiafrif o bobl gyda chlefyd coronol y rhydweli sy'n cael symptomau angina