Maint:

Diabetes a Gwaith

Beth yw'r anawsterau posib o ran cyflogaeth?

Pa ffactorau fydd fy meddyg / cyflogwr yn eu hystyried?

A oes unrhyw swyddi na ellir eu rhoi i bobl sydd ar inswlin?

Gwaith shifft a diabetes

Pam mae gwaith shifft yn drafferthus?

Ddylwn i newid fy ngwaith?

Beth yw'r swydd ddelfrydol?

Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?

 

Beth yw'r anawsterau posib o ran cyflogaeth?

Mae'n bwysig eich bod chi'n datgelu eich diabetes os gofynnir i chi wneud hynny ar ffurflen gais. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai pobl sydd â diabetes gael mynediad cyfartal at gyfleoedd gwaith. Gall fod yn anodd oherwydd triniaeth inswlin neu oherwydd cymhlethdodau gyda'r diabetes. Gyda thriniaeth inswlin, hyd yn oed gyda monitro gofalus, mae yna risg o hypoglycemia, ac fe allai rhai cyflogwyr deimlo nad ydyw hyn yn dderbyniol. Fe allai cymhlethdodau fel retinopathi gyda nam ar y gwelededd, neu angina fod yn rhwystr i sicrhau'r swydd yr ydych chi am ei chael. Efallai y bydd eich darpar-gyflogwr hefyd yn ystyried y posibilrwydd fod eich swydd yn niweidiol i'ch iechyd.

 

Pa ffactorau fydd fy meddyg / cyflogwr yn eu hystyried?

Efallai y caiff rhai, neu bob un, o'r canlynol eu hystyried wrth asesu'r sefyllfa.
. A ydyw'r diabetes yn sefydlog (wedi'i rheoli'n dda)?
. Ydych chi wedi cael unrhyw hypos sy'n 'anablu' - h.y. hypoglycemia sydd angen help gan berson arall ?
. Oes gennych chi ymwybyddiaeth normal o hypoglycemia ?
. Oes gyda chi unrhyw dystiolaeth o gymhlethdodau difrifol, fel retinoapthi datblygiedig, clefyd yr arennau, niwropatheg ymylol neu broblemau gyda'r cylchrediad?

 

A oes unrhyw swyddi na ellir eu rhoi i bobl sydd ar inswlin?

Oes. Yn anffodus, mae bod ar inswlin yn eich eithrio chi rhag gwneud y canlynol.
. Gyrru HGV, bws neu dacsi
. Y Lluoedd Arfog

Y gwasanaeth tân
. Y gwasanaeth ambiwlans
. Gwasanaeth y carchar
. Peilot awyren a chriw cabin awyren
. Rheoli traffig awyr
. Gwaith oddi ar y lan e.e. - rigiau olew a chychod
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. Efallai y teimlwch (a hynny'n gyfiawn) fod rhai cyflogwyr yn eich hatal yn annheg rhag gwneud swydd y gallech ei gwneud yn ddiogel. Mae'n well trafod achosion unigol gyda'ch meddyg.

 

Gwaith shifft a diabetes

Yn aml, mae gwaith shifft yn arwain at anhawster gyda rheoli diabetes, yn enwedig ymhlith pobl sydd ar inswlin. Mae hyfforddiant a hunan-fonitro iawn yn holl bwysig.
Fe fydd newidiadau aml i'r drefn ddyddiol gyda chyfnodau o ddyletswydd nos, yn golygu problemau gyda chyfrifo amseru a dosys pigiadau inswlin. Os ydych chi'n mynd i wneud gwaith shifft, dylech ystyried shifftiau o 0600 hyd 2200, yn ddelfrydol, gan osgoi dyletswydd yn ystod y nos.

 

Pam mae gwaith shifft yn drafferthus?

. Newid amserau prydau bwyd
. Amrywiaeth yn y lefel o weithgarwch yn ystod y nos
. Amrywiaeth mewn lefelau pwysedd
. Anhawster chwistrellu yn y gwaith
. Amser y cyfnodau o ddal i fyny ar eich cwsg (mae'n ymyrryd â phrydau bwyd a phigiadau)

 

Ddylwn i newid fy ngwaith?

Yn ddelfrydol, na. Erbyn hyn, fe fydd llawer o gyflogwyr yn rhoi lle i chi o fewn yr un mudiad, hyd yn oed os ydyw'n golygu newid eich rôl.

 

Beth yw'r swydd ddelfrydol?

. Oriau gwaith sefydlog
. Gweithgarwch corfforol rheolaidd yn hytrach na gwaith lle rydych yn eistedd wrth eich desg am gyfnodau hirfaith
. y gallu i hunan-fonitro a rhoi pigiadau yn y gwaith

 

Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?

http://www.diabetes.org.uk/faq/employ.htm