Ysmygu a Diabetes
Pam mae'n anodd rhoi'r gorau iddi?
A oes modd i mi osgoi magu pwysau?
Dw i am rhoi'r gorau iddi. Beth ddylwn i wneud?
Pa feddyginiaethau sydd ar gael?
Sut i oresgyn y crefu am sigarets
Wedi rhoi'r gorau iddi, sut ydw i'n osgoi mynd yn ôl ati?
Defnyddio clytiau a gwm nicotin
Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?
Pam rhoi'r gorau i ysmygu?
Pan mae pobl yn ysmygu, mae'n effeithio ar y llestri gwaed ac yn eu gwneud nhw i gywasgu (mynd yn llai). Yn ganlyniad, mae'n anoddach i'r gwaed fynd o amgylch y corff, ac fe all hyn arwain at bwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon, strôc a cholli aelod o'r corff.
Rydych yn mynd yn ddibynnol ar ysmygu ac mae'n niweidiol i'ch iechyd. Os oes diabetes arnoch, mae gennych fwy o risg o bwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon, strôc a cholli aelod o'r corff. Fe fydd ysmygu yn cynyddu'r risgiau hyn - felly, os allwch chi roi'r gorau i ysmygu, fe fyddwch yn gostwng y risg o ddatblygu cymhlethdodau diabetes.
Yn syml, fe fyddwch yn teimlo'n well ac yn byw'n hirach. O fewn ychydig o fisoedd i roi'r gorau i ysmygu fe allai eich cylchrediad a'ch anadlu wella. Ar ôl pum mlynedd mae eich risg o gael trawiad ar y galon yn haneri ac o fewn deng mlynedd mae'n agos at risg y rheiny sydd ddim yn ysmygu. Mae ymchwil wedi dangos y gall pobl sy'n rhoi'r gorau i ysmygu fyw'n hirach, waeth pa oedran y maen nhw'n rhoi'r gorau iddi, er mai pobl ifainc sy'n cael y mwyaf o fanteision o roi'r gorau iddi. Os ydych yn feichiog, fe fydd eich siawns o gael plentyn iach lawer yn uwch.
Heblaw am fanteision iechyd rhoi'r gorau i ysmygu, fe allech sylwi ar newidiadau eraill hefyd. Weithiau, fe fydd eich synnwyr o flas ac arogl yn gwella. Fe all anadlu ddod yn haws ac os oedd gennych y peswch nodweddiadol, fe allai hyn setlo. Fe allai eich goddefiad ymdrech neu'ch stamina wella. Mae hyn yn rhannol ddyledus i lefelau is o garbon monoxide yn eich system. Yn anffodus, nid oes modd gwyrdroi niwed hir dymor i'r ysgyfaint fel emphysema.
Heblaw am yr effaith ar eich iechyd, fe fyddwch hefyd yn arbed arian wrth roi'r gorau i ysmygu!
Pam mae'n anodd rhoi'r gorau iddi?
Mae ysmygu yn achosi dibyniaeth gorfforol a seicolegol. Mae'r effeithiau hyn yn ganlyniad i nicotin a chyfansoddion eraill sydd mewn sigaréts. Pan fyddwch chi'n stopio ysmygu, efallai y byddwch yn cael rhai, neu bob un, o'r symptomau canlynol:
. crefu am sigaréts
. pryder a thymer flin
. anhawster cysgu
. pen tost
. anhawster canolbwyntio
A ydyw'n werth torri i lawr?
Ydy. Mae unrhyw ostyngiad yn werth chweil, ond mae'n well o lawer rhoi'r gorau iddi. Cofiwch, fe all ysmygu cyn lleied a phump sigaréts y dydd ddybli eich risg o gael trawiad ar y galon.
A oes modd i mi osgoi magu pwysau?
Nid yw rhoi'r gorau i ysmygu yn golygu y byddwch chi'n magu pwysau'n awtomatig. Mae nicotin yn newid eich metaboledd a'r gyfradd yr ydych yn llosgi egni. Pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu mae eich metaboledd yn dychwelyd i'r gyfradd arferol. Hefyd, pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau iddi, mae'n bosib y gwelwch chi fod eich synnwyr o flas a'ch archwaeth yn gwella ac fe all hyn olygu magu pwysau. Fe allwch osgoi magu pwysau trwy fod yn ymwybodol o hyn a thrwy gyfyngu eich diet yn ôl y galw. Cynlluniwch eich prydau bwyd a glynwch at fyrbrydau a diodydd sy'n isel mewn calorïau. Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd a cheisiwch fonitro eich pwysau. Siaradwch â'ch dietegydd a fydd yn gallu awgrymu ffyrdd o ddelio gyda symptomau o eisiau bwyd.
Dw i am rhoi'r gorau iddi. Beth ddylwn i wneud?
Nid os un dull 'sengl', 'profedig', neu 'orau' ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu. Mae rhai pobl yn gallu rhoi'r gorau i ysmygu trwy bwer ewyllys yn unig. Mae eraill angen cefnogaeth a meddyginiaeth. Nid oes gwahaniaeth pa ddull fyddwch chi'n ei ddewis, y canlyniad sy'n bwysig. Mae ysmygwyr yn disgrifio nifer o ddulliau sy'n eu helpu i oresgyn y ddibyniaeth seicolegol a chorfforol ar sigaréts. Mae'r dulliau hyn yn amrywio o gwm cnoi, dal sigarét heb ei chynnau, sgwrsio â ffrindiau a gwneud ymarfer corff.
. Siaradwch â'ch meddyg ac efallai y bydd yn gallu helpu gyda chyngor a chefnogaeth
. Gosodwch ddyddiad ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu. Nodwch y dyddiad ar eich calendr. Peidiwch â phrynu digon o sigaréts i bara tu hwnt i'r dyddiad yma.
. Taflwch bob sigarét, cynheuwr a blwch llwch.
. Dywedwch wrth eich ffrindiau a'ch teulu am eich penderfyniad. Gofynnwch iddynt beidio ag ysmygu o'ch blaen na chynnig sigaréts i chi. Dywedwch wrth eich ffrindiau sy'n ysmygu na allan nhw ysmygu o'ch blaen!
. Cadwch i ffwrdd oddi wrth ardaloedd lle mae ysmygwyr yn gallu casglu, fel tafarndai. Os welwch chi berson yn ysmygu, cerddwch i ffwrdd.
. Byddwch yn ymwybodol o 'fwyta am gysur'. Mae llawer o ysmygwyr yn bwyta creision a losin er mwyn goresgyn y crefu am sigaréts. Mae hyn yn eich gwneud i fagu pwysau. Mae'n holl bwysig fod pobl sydd â diabetes yn osgoi magu gormodedd o bwysau.
. Cadwch eich hun yn brysur.
Pa feddyginiaethau sydd ar gael?
Nicotin yw'r prif sylwedd neu gyffur yr ydych yn dibynnu arno a geir mewn tybaco. Mae triniaethau sydd wedi eu seilio ar nicotin, gwm a chlytiau ar gael ac maen nhw'n rhoi'r 'ffics' nicotin y mae eich corff yn crefu amdano heb i chi orfod ysmygu. Holwch eich meddyg am ddefnyddio'r clytiau hyn i helpu eich tynnu chi oddi ar y nicotin yn raddol. Fel arfer, mae hyn yn cymryd tua 6-8 wythnos.
Fe fyddwch yn dechrau Bupropion, sy'n gyffur sydd ar gael ar bresgripsiwn, ac sydd ddim wedi'i seilio ar nicotin, wythnos cyn y dyddiad y byddwch yn rhoi'r gorau iddi.
Nid yw un o'r dulliau hyn yn eich gwella chi'n wyrthiol dros nos. Fe fyddan nhw ond yn gweithio os ydych chi wedi ymrwymo i roi'r gorau i ysmygu.
Sut i oresgyn y crefu am sigaréts
Mae rhai pobl yn disgrifio amrywiaeth o ddulliau ond efallai na fyddan nhw'n gweithio i bob un! Dyma rhestr fer:
. ymarfer corff - cerdded yn egnïol
. bath poeth
. cnoi gwm (di-siwgr)
. cymryd anadl ddofn
. cerddoriaeth sy'n ymlacio
Gwnewch rhestr o'ch holl rhesymau dros roi'r gorau iddi - darllenwch drwy'r rhestr yn rheolaidd
Wedi rhoi'r gorau iddi, sut ydw i'n osgoi mynd yn ôl ati?
Unwaith y byddwch chi wedi rhoi'r gorau i ysmygu, mae'n bwysig i chi fod yn ymwybodol o'r siawns y gallech fynd yn ôl i ysmygu. Mae llawer o gyn-ysmygwyr yn gwneud hynny yn ystod cyfnodau o bwysedd emosiynol. Fodd bynnag, rhaid dweud bod llawer o'r bobl sy'n gwrthwynebu ysmygu yn llwyr yn gyn-ysmygwyr eu hunain.
Defnyddio clytiau a gwm nicotin ?
Mae nicotin yn sylwedd yr ydych yn mynd i ddibynnu arno ond nid yw'n gyfrifol am achosi canser a thrawiad ar y galon. Hwn sy'n bennaf gyfrifol am y 'crefu' yr ydych yn ei deimlo am y sigaréts yn y cam cychwynnol pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu. Erbyn hyn, mae'n bosib cymryd nicotin mewn ffordd heblaw ysmygu, sef clytiau a gwm cnoi nicotin-seiliedig. Mae hyn yn gostwng y symptomau yr ydych yn eu cael wrth roi'r gorau iddi a allai eich denu chi yn ôl at ysmygu.
Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?
Action on Health and Smoking UK (ash) - http://www.ash.org.uk/html/factsheets/html/fact24.html
Gwefan y GIG - www.givingupsmoking.co.uk/
Llinell gymorth ysmygu y GIG - 0800 169 0 169



