Maint:

Mynd ar eich Gwyliau

Cynllunio eich gwyliau

Inswlin

Delio gyda newidiadau mewn amser lleol

Tra ar eich gwyliau

Chwydu a dolur rhydd

Rhestr i fynd ar eich gwyliau!

 

Cynllunio eich gwyliau

. Cyn i chi fynd i ffwrdd, cymerwch yr amser i gynllunio eich gwyliau. Cyfrifwch faint fyddwch chi'n teithio, y math o lety (trefol neu anghysbell) Os ydych chi'n mynd dramor, ystyriwch effaith yr hinsawdd a'r bwyd gwahanol ar eich diabetes. Efallai na fydd mynediad at gyflenwadau a gwasanaethau meddygol ar gael. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y gallwch chi gael cyflenwad newydd o inswlin os fyddwch chi'n rhedeg allan!
. Mae'n syniad da trefnu yswiriant teithio a iechyd ar gyfer eich gwyliau. Gwnewch yn siwr fod eich cwmni teithio neu ddarparwr yswiriant teithio yn gwybod bod diabetes arnoch. Mae Diabetes UK yn cynnig yswiriant, er, mae'n syniad da holi sawl cwmni i geisio cael y dyfynbris gorau.
. Cyfrifwch y gwahanol amser yn lleol a gwnewch gynllun ar gyfer addasu eich trefn inswlin yn ystod eich siwrnai yn yr awyren a'r newid yn y drefn unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich cyrchfan. Os nad ydych chi'n siwr sut i newid eich inswlin neu dabledi, gofynnwch i'ch nyrs diabetes arbenigol.
Gwnewch yn siwr eich bod yn mynd â'r esgidiau iawn - yn enwedig os ydych chi'n bwriadu gwneud tipyn o gerdded.
. Os ydych chi'n teithio i Ewrop, gofynnwch am ffurflen E111 o'ch meddygfa neu o'r swyddfa bost. Fe fydd y dystysgrif yma'n eich galluogi chi i gael mynediad at ofal meddygol rhad ac am ddim yn yr Undeb Ewropeaidd.
. Gwnewch restr o'r holl bethau sydd angen i chi fynd gyda chi. Mae yna rhestr enghreifftiol isod.
. Mae rhai cwmnïau teithio yn gallu cynnig help ychwanegol fel trefnu bod oergell yn eich ystafell Efallai y bydd mynd â nodwyddau neu chwistrellau ar awyren yn anodd os nad ydych chi'n eu rhybuddio ymlaen llaw!

 

Inswlin

. Ewch â mwy o inswlin na fyddai angen arnoch fel arfer. Os ydych chi'n teithio gyda rhywun arall, fe fyddai'n syniad da rhoi hanner y cyflenwad ym mag y person arall rhag ofn i'ch un chi fynd ar goll!
. Os ydych chi'n defnyddio cymysgedd inswlin, ystyriwch fynd â chyflenwad bach o inswlin toddadwy neu 'clir' y gallwch ei ddefnyddio os ydych chi'n sâl.
. Os ydych chi'n teithio i hinsawdd trofannol ewch â bag oer neu fflasg faciwm gyda chi i gadw'ch inswlin yn oer. Tra ar yr awyren, cadwch eich inswlin gyda chi yn eich bagiau llaw fel na fydd y toddiad yn rhewi yn y man lle mae'r bagiau'n cael eu storio.
. Gwnewch yn siwr fod digon o gyflenwad o beniau a chwistrellau gyda chi rhag ofn i chi golli pen neu rhag ofn na fydd yn gweithio'n iawn.
. Ewch â llythyr neu ddogfen sy'n nodi eich bod chi â diabetes. Efallai y bydd yn anodd i chi esbonio pam yr ydych yn cario cas yn llawn o chwistrellau a nodwyddau!
. Nid yw cwmnïau awyren yn debygol o gytuno i gadw inswlin mewn oergell. Ond fe fyddan nhw'n fodlon rhoi digon o ia i chi i gadw'r inswlin yn oer yn ystod taith hir mewn awyren.

 

Delio gyda newidiadau mewn amser lleol

Mae ceisio delio gyda newidiadau mewn amser lleol yn gymhleth ac mae'n well ei drafod gyda'ch meddyg neu nyrs diabetes arbenigol. Fe fydd y cyngor cyffredinol hyn yn ddefnyddiol os oes gwahaniaeth o bedair awr neu fwy rhwng yr amser gartref a'r amser yn eich cyrchfan.
Mae taith hir i'r GORLLEWIN yn gwneud eich diwrnod (neu nos) yn hirach felly fe fydd angen i chi wneud iawn am y diffyg inswlin. Y ffordd haws yw rhoi eich dos arferol ac yna dos ychwanegol o inswlin toddadwy (sy'n gweithredu'n gyflym) yn ôl eich profion gwaed.
Os ydych chi ar daith hir i'r DWYRAIN, fe fydd eich dydd (neu nos) yn fyrrach. Cymerwch hanner eich dos arferol o inswlin cyn i'r daith ddechrau ac yna defnyddiwch eich inswlin toddadwy ar gyfer unrhyw ddiffyg.

 

Tra ar eich gwyliau

Mae llawer o bobl yn fwy gweithgar pan maen nhw ar eu gwyliau ac weithiau mae amserau bwyd yn afreolaidd gan eich bod chi'n teithio. Felly, rydych chi'n tebygol o fod mewn perygl o gael hypos! Byddwch yn ymwybodol o symptomau hypo a gwnewch yn siwr fod y rheiny sy'n teithio gyda chi yn gallu adnabod symptomau hypoglycemia.
Gofalwch am eich traed. Mae llawer o wlserau yn dechrau fel pothelli ar eich gwyliau. Gwisgwch rywbeth ar eich draed drwy'r amser a pheidiwch â cherdded yn droednoeth ar y traeth. Os ydych yn nofio yn y môr gwyliwch am gregyn miniog, môr-ddraenogod ac eitemau miniog eraill sydd ar wely'r môr!

 

Chwydu a dolur rhydd

Yn anffodus, mae dolur rhydd i deithwyr yn un o'r pethau mwyaf cyffredin sy'n sbwylio gwyliau. Mae gan arlwyo lluosog y gwestai mewn cyrchfannau gwyliau ei broblemau. Gwyliwch yr hyn y byddwch yn ei fwyta - cymerwch gamau synhwyrol a chofiwch yfed dwr berwedig wedi'i oeri neu ddwr potel. Os fyddwch chi'n datblygu dolur rhydd neu chwydu, cofiwch fod angen cymryd eich inswlin o hyd (darllenwch 'rheolau ar gyfer diwrnodau sâl'), yfwch ddigon o hylif a mynnwch sylw meddygol yn gynnar cyn i chi ddechrau disychu.

 

Rhestr i fynd ar eich gwyliau!

. Cynlluniwch eich gwyliau. Os ydych chi'n teithio dramor efallai na fydd hi'n bosib cael cyflenwadau ffres.
. Argraffwch y rhestr hon, a hyd yn oed os fyddwch chi'n anghofio'ch brws dannedd peidiwch ag anghofio'ch inswlin !
. Meddyginiaethau- inswlin, chwistrellau/peniau, nodwyddau,
. Offer profi - mesurydd, stripiau profi, ffleimiau ( lancets ),
- I Hypos - tabledi glwcos, Lucozade, hypostop, glucagon
meddyginiaeth i'ch atal rhag chwydu a thabledi i'ch atal rhag cael dolur rhydd
. Hufen emylsydd a sgrin haul
. Bwyd - diodydd di-siwgr, bariau byrbryd, bisgedi
. Melyswyr os bydd eu hangen nhw
. Dogfennau adnabod / breichled (Medic-Alert) sy'n cynnwys eich enw, cyfeiriad a chyfarwyddiadau ar gyfer hypoglycemia.
. Yswiriant teithio