Maint:

Diabetes a Gyrru

Dw i wedi cael diagnosis yn ddiweddar - ddylwn i ddweud wrth y DVLA?

Dw i wedi gorfod dechrau ar inswlin, beth sy'n digwydd nawr?

Pa gymhlethdodau sy'n bwysig?

Sut ydw i'n cysylltu â'r DVLA?

Dw i'n gyrru cerbyd masnachol, a fyddai'n cael parhau?

Sut ydw i'n osgoi hypoglycemia?

Beth ddylwn i ei wneud yn achos hypoglycemia?

Sut mae hyn yn effeithio ar fy yswiriant?

Safonau gwelededd ar gyfer gyrru

 

Dw i wedi cael diagnosis yn ddiweddar - ddylwn i ddweud wrth y DVLA?

Mae'r prif risg o ran diabetes yn deillio o hypoglycemia, sy'n un o gymhlethdodau'r driniaeth, ac nid y diabetes ei hun. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA) am unrhyw ddiagnosis diabetes os ydych yn cael eich trin gydag inswlin neu dabledi hypoglycemig yr ydych yn eu llyncu. Os ydych yn cael eich trin trwy ddiet yn unig, nid oes angen i chi ddweud wrth y DVLA. Os ydych chi wedi dechrau cymryd tabledi hypoglycemig yr ydych yn eu llyncu, fel arfer fe fyddwch yn cael trwydded lawn 'hyd nes eich bod yn 70'.

 

Dw i wedi gorfod dechrau ar inswlin, beth sy'n digwydd nawr?

Fe fydd cleifion sydd ar driniaeth inswlin yn cael ffurflen Diabetic 1 a fydd yn gofyn am fanylion pellach gan gynnwys enw Meddyg Teulu'r claf neu ffisegydd yr ysbyty ac am ganiatâd i gysylltu â'r meddyg yn uniongyrchol os bydd angen. Cyhoeddir y drwydded am 1, 2 neu 3 blynedd. Mae'n gyfrifoldeb arnoch i ddweud wrth y DVLA am unrhyw gymhlethdodau a allai effeithio ar ddiogelwch eich gyrru.

 

Pa gymhlethdodau sy'n bwysig?

. Retinopathi diabetig
. Hypoglycemia rheolaidd
. Cnawdychiad Myocardaidd ( Myocardial infarction )
. Strôc

 

Sut ydw i'n cysylltu â'r DVLA?

Ysgrifennwch at:
Y Cynghorydd Meddygol
Uned Meddygol Gyrwyr
DVLA
Heol Longview
Abertawe SA99 1TU
Rhif Ffôn 01792 772151

We-fan: www.dvla.gov
Neu cysylltwch â'r swyddfa leol agosaf

 

Dw i'n gyrru cerbyd masnachol, a fyddai'n cael parhau...?

Ers Ebrill 1991 nid yw'r gyfraith yn caniatáu trwydded Cerbydau Nwyddau Mawr (LGV) na Cherbyd sy'n Cludo Teithwyr (PCV) i gleifion sy'n cael eu trin gydag inswlin. Felly, fe fydd yn rhaid i berson sydd â thrwydded LGV neu PCV golli eu trwydded os ydyn nhw'n mynd i ddechrau cael triniaeth inswlin.
Cleifion a oedd â diabetes math 1 ac a gafodd y fath drwydded cyn Ebrill 1991 pan newidiodd y gyfraith yw'r unig eithriad i'r rheol hon. Mae'r achosion hyn yn cael sylw unigol a gellir ailgyhoeddi trwyddedau bob blwyddyn yn amodol ar adolygiad meddygol boddhaol.
Fe all cleifion gael trwydded LGV neu PCV os ydynt yn cael eu trin trwy ddiet neu OHA tra nad oes unrhyw broblemau meddygol neu broblemau gyda gwelededd.
O ran Cerbydau Teithwyr Llai a Cherbydau Nwyddau Ysgafnach, fe ddaeth ail gyfarwyddyd trwyddedu gyrwyr yr UE i rym yn y Deyrnas Unedig yn Ionawr 1998. Fe gollodd gyrwyr sy'n cael eu trin gydag inswlin eu hawl i yrru cerbydau nwyddau ysgafnach a cherbydau teithwyr llai. Mae hyn yn cynnwys cerbydau yng nghategori C1 (rhwng 3.5 a 7.5 tunnell) a chategori D1 (cerbydau bach sy'n cludo teithwyr ar gyfer 9 teithiwr neu fwy). Fe fyddan nhw'n cadw'r hawl i dynnu carafannau, gyrru ceir gyda threlar a thynnu cerbydau sydd wedi torri i lawr gan ddefnyddio car.
Mae'r gwaharddiad ar yrru cerbydau yn y categorïau hyn yn cwmpasu gyrwyr galwedigaethol (masnachol) yn unig ac nid ydyw'n cynnwys unigolion sy'n gyrru'n wirfoddol.

 

Sut ydw i'n osgoi hypoglycemia?

. Gwiriwch eich siwgr gwaed cyn ac ar ôl taith. Yn ystod siwrnai hir mewn car, gwnewch yn siwr eich bod yn stopio'n aml a phrofwch eich lefelau siwgr bob dwy awr, o leiaf. Fe'ch cynghorir i gael byrbryd bob dwy awr.
. Ewch a ffynhonnell dda o fwyd carbohydrad sy'n gweithio'n gyflym yn y car, er enghraifft siocled neu dabledi glwcos.
. Ewch â dull adnabod gyda chi rhag of bod argyfwng yn codi.
. Os ydych yn cael pwl o hypoglycemia heb esboniad, peidiwch â gyrru nes i chi roi sylw i'r achos. Trafodwch hyn ymhellach gyda'ch meddyg neu nyrs diabetes.
. Cofiwch, os cewch chi ddamwain sydd yn ganlyniad i hypoglycemia fe allech gael eich cyhuddo o yrru dan ddylanwad cyffuriau.
. ni ddylech yfed alcohol o gwbl pan yn gyrru.

 

Beth ddylwn i ei wneud yn achos hypoglycemia?

. Stopiwch yrru unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
. Cymerwch dabled glwcos neu ddiod glwcos.
. Tynnwch yr allwedd a symudwch at sedd y teithiwr. Os ydych chi ar y draffordd, gadewch eich car gyda'r goleuadau rhybudd ymlaen ac ewch i fan diogel.

 

Sut mae hyn yn effeithio ar fy yswiriant?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cwmni yswiriant fod diabetes arnoch adeg y diagnosis ac wrth adnewyddu'r polisi. Rhaid hefyd dweud am unrhyw newidiadau i'r driniaeth ac unrhyw gymhlethdodau, bryd hynny. Fe allai methu â dweud wrth eich cwmni yswiriant olygu na fydd unrhyw hawliad y gwnewch yn ddilys. Ni fydd bob cwmni yswiriant yn llwytho eu polisïau yn yr un ffordd ac nid oes un cynllun yswiriant sengl a fydd yn rhatach ym mhob achos. Cysylltwch â Diabetes UK am gyngor pellach.

 

Safonau gwelededd ar gyfer gyrru

Mae'r safonau gwelededd ar gyfer cleifion sydd â diabetes yr un peth ag ar gyfer unrhyw yrrwr arall. Dylech fod yn gallu darllen plât rhif (7.9cm) ar bellter o 20.5 metr, gyda maes gwelededd o 120° yn yr echelin llorweddol, o leiaf ac 20° yn yr echelin fertigol, o leiaf. Mae hyn tua'r un peth â chraffter cywiriedig Siart Snellen. Os oes amheuaeth, fe fydd eich meddyg yn gallu eich cyfeirio chi at Glinig Offthalmoleg ar gyfer asesiad ffurfiol.