Maint:

Diabetes ac Alcohol

Mae diabetes arnai. Ydw i'n gallu yfed alcohol?

Beth yw'r risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd gormod o alcohol?

Mesurau cyffredinol i'w cymryd

Ddylwn i osgoi unrhyw ddiodydd?

 

Mae diabetes arnai. Ydw i'n gallu yfed alcohol?

Ni fydd ychydig o alcohol yn niweidio'r ffordd yr ydych yn rheoli eich diabetes ac fe allwch ei fwynhau'n ddiogel. Ond mae angen i chi gymryd rhai mesurau ac mae'r mesurau hynny yn cael sylw isod.

 

Beth yw'r risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd gormod o alcohol?

Mae'r prif broblemau sy'n gysylltiedig ag alcohol a diabetes yn ymwneud â hypoglycemia. Mewn sawl ffordd gwahanol, fe allai alcohol eich gwneud chi'n fwy tebygol o gael hypoglycemia os ydych yn cael eich trin gydag inswlin neu dabledi.
Fe all yfed alcohol olygu nad ydyw'ch beirniadaeth yn hollol ddibynadwy. Mae alcohol yn dynwared llawer o symptomau rhybudd cynnar hypoglycemia. Fe allai eich ffrindiau hefyd gamgymryd y symptomau hypoglycemig hyn am effeithiau alcohol ac efallai na fyddan nhw'n anfon am help nes i chi fynd yn anymwybodol. Fe ddylai eich ffrindiau agos wybod eich bod chi ar driniaeth a bod nodweddion hypoglycemia ac ymddygiad feddwol yn debyg iawn i'w gilydd.
Fe allai alcohol eich gwneud chi i fagu pwysau ac fe allai effeithio ar eich rheolaeth dros eich diabetes. Yn aml, mae bobl sy'n yfed yn drwm yn pwyso mwy na'r pwysau delfrydol ac mae ganddynt glwcos gwaed uchel.

 

Mesurau cyffredinol i'w cymryd

. Peidiwch ag yfed alcohol pan na fydd eich rheolaeth dros eich diabetes wedi'i reoli'n dda - mae'n debygol o wneud pethau'n waeth
. Peidiwch ag yfed llawer o alcohol os ydych chi am golli pwysau. Mae alcohol yn uchel mewn calorïau. Mae yna gymaint â 180 calori mewn peint o gwrw.
. Peidiwch ag yfed ar stumog gwag
. Peidiwch ag yfed ar ôl ymarfer corff trwm
. Peidiwch â mynd heb fwyd neu ohirio bwyd pan fyddwch chi'n yfed alcohol - fe allech chi gael hypo sawl awr ar ôl bod ar y cwrw. Cofiwch wirio eich lefelau glwcos gwaed cyn i chi fynd i gysgu.
. Ystyriwch newid cynnwys carbohydrad eich pryd o fwyd neu ddos eich inswlin os ydych chi'n bwriadu yfed.
. Yfwch yn araf. Ceisiwch yfed diodydd di-alcohol am yn ail gyda diodydd alcoholig. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddelio gyda'r alcohol yr ydych wedi ei yfed yn barod.
. Ewch a thabledi glwcos neu ffynhonnell arall o siwgr sy'n gweithio'n gyflym gyda chi
. PEIDIWCH yfed a gyrru.
. Os ydych chi'n yfed yn rheolaidd, glynwch at lefelau synhwyrol. Cofiwch y gallai yfed alcohol yn gymedrol wneud daioni! Dyma'r terfyn alcohol synhwyrol ar gyfer pobl sydd â diabetes (a phobl sydd ddim â diabetes):
Dynion - Dim nwy na 3 uned y dydd = 21 uned yr wythnos
Menywod - Dim nwy na 2 uned y dydd = 14 uned yr wythnos

 

Ddylwn i osgoi unrhyw ddiodydd?

. Dylech osgoi diodydd melys fel sherry, gwinoedd melys a gwirodlynnau ( liqueurs ).
. Efallai fod gan gwrw neu lager alcohol isel fwy o siwgr ac mae cwrw sy'n isel mewn siwgr yn dueddol o fod â chynnwys alcohol uwch. Yn gyffredinol, ewch am y cwrw neu lager arferol.