Colli Pwysau
Ydych chi'n barod i golli pwysau?
Pam ddylwn i golli pwysau?
Os ydych yn pwyso mwy na'r pwysau delfrydol, fe fydd eich rheolaeth dros eich diabetes yn gwella os gollwch chi beth pwysau. Mae pwyso mwy na'r pwysau delfrydol yn rhwystro'r ffordd y mae inswlin yn gweithio ac yn ei stopio rhag gweithio mor effeithiol, sy'n golygu bod eich diabetes yn fwy anodd ei rheoli. Fe all colli pwysau hefyd olygu y gallwch chi gymryd llai o dabledi diabetes neu chwistrellu llai o inswlin.
I golli pwysau, fe fydd angen i chi wneud newidiadau graddol, ond parhaol i'r hyn yr ydych yn ei fwyta. Fe fydd angen i chi fod mor weithgar ag sy'n bosib hefyd.
Ydych chi'n barod i golli pwysau?
Os taw 'Na' yw'r ateb:
Cynlluniwch i fwyta'n iach a chadw eich pwysau yn sefydlog am nawr. Darllenwch yr wybodaeth yma i baratoi ar gyfer colli pwysau yn y dyfodol.
Os taw 'Ydw' yw'r ateb:
Defnyddiwch yr wybodaeth ganlynol i gynllunio beth i'w wneud a sut i ddechrau. Os ydych chi'n gyfarwydd â diet, fe fyddwch fwy na thebyg yn gwybod nad ydyw hyn yn eich helpu i golli pwysau yn y pen draw. Ceisiwch stopio meddwl am 'ddiet''. Peidiwch â chyfyngu eich bwyd yn ormodol. Os fyddwch chi eisiau bwyd yn ormodol fe fyddwch yn mynd am fyrbrydau ychwanegol ac yna'n teimlo'n euog. Mae cynllunio i golli pwysau yn dechrau gyda bod yn ymwybodol o beth, pryd, ble a pham rydych chi'n bwyta. Ceisiwch gofnodi'r bwydydd yr ydych yn eu bwyta (cadw Dyddiadur Bwyd) ac atebwch y cwestiynau canlynol:
. Beth ydych chi'n ei fwyta?
. Prydau bwyd rheolaidd neu fyrbrydau yn ystod y dydd?
. Pryd ydych chi'n bwyta?
. Ble ydych chi'n bwyta?
. Ydych chi'n bwyta ar eich pen eich hun, neu gyda ffrindiau neu theulu?
Unwaith y byddwch chi'n fwy ymwybodol o'ch patrwm bwyta fe allwch chi ddechrau cynllunio newidiadau i'ch helpu i golli pwysau'n araf ac yn barhaol. Cynlluniwch y newidiadau hyn i ffitio gyda'ch cartref, eich teulu a'ch gwaith.
Ble allwch chi gael help?
. Teulu - gofynnwch am gefnogaeth a dywedwch wrthynt ei fod yn bwysig.
. Ffrindiau ac eraill - gofynnwch am help a dywedwch wrthyn nhw eich bod chi angen anogaeth.
. Grwpiau lleol - rhowch dro ar glwb colli pwysau sydd ag enw da (dywedwch wrthyn nhw fod diabetes arnoch). Gofynnwch i'r Meddyg Teulu / dietegydd lleol.
. Gwybodaeth - gofynnwch i'ch nyrs, Meddyg Teulu neu ddietegydd am gyngor ar gynyddu eich gweithgarwch corfforol ac yna rhowch dro ar eich cyfleusterau lleol.
Penderfynwch pa help sydd angen arnoch, ble allwch chi ei gael ac yna gofynnwch amdano.
Meddyliwch yn bositif!
Pa bethau sy'n effeithio ar eich patrwm bwyta?
. Teulu
. Ffrindiau
. Hoffter bwyd
. Teimlo'n hunan-ymwybodol
. Amser
. Arian
. Pwysedd
. Diflastod - dim byw i'w wneud
. Eisiau Bwyd
. Sgiliau coginio
. Blinder
. Siopau
. Cyfleusterau cegin
. Diffyg hyder
. Gwaith
. Arall
Pa rai o'r pethau hyn y gallwch chi eu newid i adeiladu cynllun bwyta newydd?
Dechrau colli pwysau
Mae angen i chi fwyta prydau bwyd iach yn rheolaidd er mwyn gwella eich rheolaeth o'ch diabetes. Mae hyn hefyd yn bwysig er mwyn rheoleiddio metaboledd eich corff gan ei annog i golli pwysau. Os ydyw'ch pwysau'n sefydlog, yna mae hyn yn golygu eich bod yn cwrdd â'ch gofynion o ran egni ac felly os ydych chi am golli pwysau, fe fydd angen i chi ostwng yr egni (kcal) yr ydych yn eu bwyta/yfed, neu gynyddu'r egni (gweithgarwch) yr ydych yn ei ddefnyddio. Yn ddelfrydol, cyfuniad o'r ddau sy'n gweithio orau.
Rydyn ni wedi trafod bwyta'n iach ar gyfer diabetes yn barod. I annog y corff i golli pwysau, mae'r cyngor yr un peth. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn gweld, wrth ostwng y siwgr a'r braster yn eu diet, bod eu pwysau'n gostwng yn naturiol. Ond os nad yw hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi rhoi mwy o sylw i maint y dognau h.y. prydau llai a chyfyngu byrbrydau.
Cadwch 'ddyddiadur bwyd' onest i fonitro'r hyn yr ydych yn ei fwyta. Fe fydd hyn yn eich gwneud chi'n fwy ymwybodol o beth, a phryd, yr ydych yn ei fwyta a'i yfed, yn enwedig rhwng prydau bwyd.
Beth am ymarfer corff?
Os ydych chi'n weithgar rydych chi'n defnyddio mwy o egni (calorïau) nag os ydych chi'n llonydd. Mae bod mor weithgar ag y gallwch yn eich helpu i:
. Golli pwysau a'i gadw i ffwrdd
. Teimlo'n fwy hyderus
. Gwella'ch rheolaeth dros eich diabetes
. Gwella eich synnwyr o les
Dewiswch ymarfer corff yr ydych yn ei fwynhau, ac sy'n ffitio i mewn gyda'ch ffordd o fyw:
. Ceisiwch gerdded i'r arosfan bws nesaf, yn lle mynd â'r car, defnyddiwch y grisiau yn lle lifft
. Ceisiwch gerdded yn gyflym, dawnsio, cadw'n heini, nofio, seiclo.
Gofynnwch i'ch Meddyg Teulu i'ch cyfeirio chi at eich canolfan chwaraeon lleol am sesiynau sydd wedi eu goruchwylio.
Os ydych chi wedi bod yn magu pwysau yn ddiweddar, mae aros ar yr un pwysau yn gyrhaeddiad a dyma eich cam cyntaf chi tuag at lwyddo. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd un dydd ar y tro. Cofiwch fod colli ychydig o bwysau yn well na cholli dim o gwbl. Mae colli pwysau'n raddol yn fwy tebygol o sicrhau ei fod yn cadw i ffwrdd. Anelwch am 1-2lb (500g-1kg) yr wythnos. Mae colli pwysau'n raddol yn golygu eich bod yn colli braster, yn hytrach na chyhyrau. Byddwch yn realistig, mae tystiolaeth yn awgrymu bod anelu am golli 5-10% o'ch pwysau yn llesol i'ch iechyd. Peidiwch â theimlo'n euog os ydych yn gorymblesera - mae pawb yn cael diwrnodau 'da' a diwrnodau 'gwael'! Ceisiwch ddod yn ôl ar eich traed cyn gynted ag y gallwch.



