Ffordd o fyw ac Ymarfer corff
Pam mae ymarfer corff mor dda?
Sut mae ymarfer corff yn effeithio ar ddiabetes?
Ymarfer corff a diabetes sy'n ddibynnol ar inswlin
Ymarfer corff a diabetes math 2
Pam mae ymarfer corff mor dda?
Ymarfer corff -
. Mae'n eich gwneud chi i deimlo'n dda ac yn eich galluogi i reoli pwysedd bywyd
. Mae'n eich cadw chi'n symudol ac yn annibynnol
. Mae'n atal esgyrn brau
. Mae'n eich helpu i golli pwysau
. Mae'n gwella eich cylchrediad ac yn gostwng y risg o glefyd y galon
. Mae'n gostwng eich siwgr gwaed
. Mae'n rheoli pwysedd gwaed
Faint o ymarfer corff?
Mae'r Adran Addysg Iechyd yn awgrymu 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol ar bump diwrnod o'r wythnos oherwydd fe all hyn wella iechyd. Mae ymchwil yn dangos bod y lefel yma o weithgarwch yn gwella iechyd. (Os ydyw ymarfer corff yn rhywbeth newydd i chi, yna meddyliwch amdano fel targed ac adeiladwch arno'n raddol)
Mae cymedrol yn golygu digon i godi curiad eich calon a'ch gwneud i deimlo'n gynnes ac ychydig allan o anadl (ond nid yn anghyffyrddus).
Pethau y gallech roi tro arnynt: garddio, cerdded egnïol, seiclo, nofio a dawnsio yn ogystal â chwaraeon. Mae'n bwysig mwynhau beth bynnag yr ydych yn dewis ei wneud.
Sut ydw i'n dechrau?
. Ydw i'n gallu cynnwys mwy o weithgarwch rheolaidd yn fy mywyd bob dydd? Ydw i'n gallu defnyddio'r grisiau yn lle'r lifftiau, cerdded ychydig o arosfannau bws, parcio ychydig ymhellach o'r gwaith neu'r siopau?
. Beth sydd gan Ganolfannau Chwaraeon i'w gynnig? Mae rhai canolfannau chwaraeon lleol wedi sefydlu cynlluniau cyfeirio Meddyg Teulu lle y gallwch gael goruchwyliaeth a sesiynau ymarfer corff am bris gostyngol os ydyw'ch Meddyg Teulu yn eich cyfeirio at ganolfan. Gofynnwch i'ch Meddyg Teulu neu ganolfan chwaraeon lleol am fanylion.
. Byddai'n ddoeth holi eich meddyg cyn dechrau unrhyw ymarfer corff egnïol.
Sut mae ymarfer corff yn effeithio ar ddiabetes?
. Mae'n dibynnu ar y math o ymarfer corff yr ydych yn ei wneud a sut mae eich diabetes yn cael ei drin. Efallai y bydd angen i chi ostwng eich inswlin neu ddos tabled a/neu gynyddu'r bwyd yr ydych yn ei fwyta er mwyn osgoi siwgr gwaed isel iawn (hypos).
. Os ydych yn ceisio colli pwysau mae'n well gostwng eich meddyginiaeth. Holwch eich nyrs/dietegydd.
. Gweithgarwch ysgafn: efallai na fydd hyn yn effeithio ar y lefelau siwgr yn eich gwaed.
. Ymarfer corff egnïol byr (ee sboncen): efallai y byddwch angen mwy o fwyd ymlaen llaw a bwyd ychwanegol wedi hynny yn ystod eich byrbryd neu brif bryd o fwyd nesaf.
. Ymarfer corff estynedig (ee taith hir ar feic, gêm bêl-droed neu rygbi): Efallai y bydd angen i chi fwyta bwyd ychwanegol cyn, yn ystod ac ar ôl eich gweithgarwch.
. Ar ôl eich ymarfer corff: fe all eich cyhyrau gymryd 1-2 awr i adennill yr egni. Yn ystod yr amser hyn, fe allai eich siwgr gwaed ostwng eto felly mae'n bwysig atal hypos gohiriedig, a allai ddigwydd yn ystod y nos.
. Cofiwch yfed digon o hylif pan yn gwneud ymarfer corff gan gynnwys dwr neu ddiodydd di-siwgr os fyddwch chi angen carbohydradau.
. Cofiwch fod pob un yn wahanol ac y bydd hi'n achos o roi tro a gwneud camgymeriadau wrth i chi ddarganfod sut i gadw cydbwysedd rhwng eich diabetes a'ch ymarfer corff. Fe fydd eich nyrs diabetes/dietegydd yn gallu eich helpu i weithio system sy'n eich siwtio chi orau.
Ymarfer corff a diabetes sy'n ddibynnol ar inswlin
. Mae'n rhaid i chi wneud profion siwgr gwaed rheolaidd i wirio'r cydbwysedd rhwng eich gweithgarwch, inswlin a byrbrydau.
. Gofynnwch i'ch nyrs diabetes am gyngor ynglyn â gostwng eich inswlin cyn ymarfer corff sydd wedi'i drefnu.
. Bwytewch fwyd ychwanegol cyn ac ar ôl ymarfer corff hefyd, yn ogystal â, neu yn lle, gostwng eich dos o inswlin.
. Mae ymarfer corff yn gallu effeithio ar y gyfradd y mae'ch corff yn amsugno inswlin. Mae'n well gan rai chwistrellu i mewn i'w stumog yn lle eu cluniau cyn ymarfer corff.
. Gwnewch yn siwr fod gennych beth siwgr, tabledi glwcos, siocled neu ddiod â siwgr wrth law tra eich bod yn gwneud ymarfer corff (yn eich poced, efallai).
. Peidiwch â stopio eich inswlin, gwnewch yn siwr eich bod yn cario ffordd o ddangos eich bod yn ddiabetig a chyflenwad o dabledi glwcos neu ddiod.
Ymarfer corff a diabetes math 2
. Cadwch beth tabledi glwcos neu ddiod melys gyda chi i'w defnyddio mewn argyfwng
. Archwiliwch eich traed cyn ac ar ôl ymarfer corff - chwiliwch am arwyddion o gochni neu bothelli.
. Yfwch ddigon o hylif cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff. Pan yn gwneud ymarfer corff, mae eich corff yn colli mwy o hylif er mwyn eich cadw'n oer. Erbyn i chi deimlo'n sychedig efallai y byddwch wedi dechrau disychu yn barod. Mae disychiad (dim digon o hylif yn eich corff) yn gallu effeithio ar lefel eich siwgr gwaed.
. Chwiliwch am symptomau hypoglycemia. Fe all rai o'r symptomau arferol, sef cynnydd yng nghyfradd y galon a chwysu, ddigwydd hefyd mewn ymarfer corff ac ni ddylech eu hanwybyddu. Os oes amheuaeth, gwiriwch eich siwgr gwaed.
. Does dim gwahaniaeth pa fath o ymarfer corff yr ydych yn ei wneud, fe ddylech gynhesu cyn i chi ddechrau ac yna oeri i lawr wedi gorffen. I gynhesu, treuliwch 5 i 10 munud yn gwneud ymarfer corff egni isel fel cerdded. Yna, ymestynnwch yn ysgafn am 5 i 10 munud arall. Ailadroddwch y camau hyn ar ôl i chi wneud ymarfer corff er mwyn oeri i lawr.
. Fel rheol gyffredinol, ceisiwch osgoi gwneud ymarfer corff os ydyw eich siwgr gwaed yn rhy isel neu'n rhy uchel.



