Diabetes tra'n Cario
Pwy sy'n datblygu diabetes tra'n cario?
Beth yw diabetes tra'n cario?
Math dros dro o diabetes math 2 yw hwn ac mae'n datblygu ymhlith rhai menywod yn ystod beichiogrwydd. Mae astudiaethau wedi dangos bod diabetes tra'n cario yn digwydd mewn 2-12% o feichiogrwydd. Mae diabetes tra'n cario yn gallu cynyddu'r risg o gymhlethdodau yn ystod y beichiogrwydd. Mae'r rhain yn cynnwys cael babi mawr sydd angen Toriad Caesaraidd. Mae'n bwysig, felly, canfod a thrin y diabetes. Mae'r diabetes yn diflannu ar ôl y beichiogrwydd. Ond mae'r menywod hyn mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 parhaol yn hwyrach mewn bywyd.
Pwy sy'n datblygu diabetes tra'n cario?
Mae'r perygl o ddatblygu diabetes tra'n cario yn fwy mewn menywod sy'n syrthio i'r grwpiau canlynol:
. diabetes tra'n cario mewn beichiogrwydd blaenorol
. babi mawr mewn beichiogrwydd blaenorol
. pwyso mwy na'r pwysau delfrydol gyda mas indecs y corff yn fwy na 30.
. hanes o diabetes math 2 yn y teulu
. grwp ethnig Asiaidd neu Affro-Garibeaidd
Sut mae'n cael ei ddiagnosio?
Dylai menywod beichiog yn y grwpiau risg uchod gael prawf goddefiad glwcos yn ystod tri mis cyntaf y beichiogrwydd ac unwaith eto yn gynnar wedi'r chweched mis os oedd y prawf cyntaf yn normal. Yn y grwpiau hyn mae'r diabetes wedi'i gadarnhau os yw'r glwcos plasma ymprydio a geir o'r wythïen yn fwy na 7.0 mmol/neu'r glwcos yn fwy na 7.8 mmol/l ddwy awr wedi yfed 75g o glwcos.
Sut mae'n cael ei drin?
. Mesurau dietegol sy'n anelu at gael rheolaeth dda dros y diabetes
. Hunan-fonitro glwcos gwaed yn rheolaidd
. Y lefelau targed yw glwcos gwaed ymprydio o lai na 5.5 mmol/l a glwcos gwaed ar ôl bwyd o lai na 7.5 mmol/l
. Efallai y bydd angen inswlin os yw'r lefelau glwcos yn parhau i fod yn uwch na'r targedau hyn
. Stopiwch yr inswlin wedi geni'r plentyn os ydych wedi ei ddechrau yn ystod beichiogrwydd
. Dylech ailadrodd y prawf goddefiad glwcos ar ôl 6 wythnos ar ôl yr enedigaeth i sicrhau bod y diabetes wedi mynd i ffwrdd
. Fe fydd angen sgrinio'n rheolaidd am ddiabetes yn ystod y blynyddoedd canlynol



