Clefyd Diabetig y Llygaid
Sut mae diabetes yn effeithio ar y llygaid?
Sut ydw i'n atal y problemau hyn?
Pa mor fawr yw graddfa'r broblem?
Pwy sydd mewn perygl o ddatblygu retinopathi?
Beth yw diben triniaeth laser?
Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?
Cyflwyniad
Mae diabetes yn un o brif achosion dallineb mewn oedolion yn y byd gorllewinol. Caiff pwysigrwydd clefyd diabetig y llygaid ei adlewyrchu yn y pwyslais ar sgrinio llygaid yn rheolaidd mewn clinigau diabetes. Mae canfod a thrin y cyflwr yn gynnar yn gallu atal llawer o'r cymhlethdodau sy'n bygwth golwg.
Sut mae diabetes yn effeithio ar y llygaid?
Mae cael crynoadau uchel o siwgr gwaed yn ogystal â phwysedd gwaed uchel yn gallu achosi niwed i'r llygaid.
Fe all pobl sydd â diabetes gael amrywiaeth o gymhlethdodau yn ymwneud â'r llygaid. Mae'r cyntaf a restrir yn benodol neu'n neilltuol i diabetes. Gwelir y cyflyrau eraill mewn pobl sydd ddim â diabetes. Fodd bynnag, mae'r rheiny sydd â diabetes yn dioddef y problemau hyn yn fwy cyffredin, ac weithiau yn gynharach yn eu bywydau.
Mae diabetes sydd wedi ei rheoli'n wael yn gallu achosi golwg cymylog dros dro, am fod y crynoadau glwcos uchel yn achosi newidiadau i grymedd lens y llygad
Mae retinopathi diabetig yn gyflwr sy'n effeithio ar lestri gwaed yr haenen sy'n sensitif i olau (y retina) ar gefn y llygad.
Mae cataract yn golygu bod rhan o lens y llygad yn gymylog neu'n anhryloyw.
Mae Glaucoma'n dod i'r amlwg pan fydd pwysedd yn adeiladu o fewn y llygad ac fe all fod yn boenus neu achosi dallineb
Mae parlys nerf ocwlar yn ganlyniad i niwed i un o'r nerfau sy'n rheoli symudiad y llygad ac fe all olygu eich bod yn gweld dwbl
Sut ydw i'n atal y problemau hyn?
. Rheoli eich siwgr gwaed a'ch pwysedd gwaed yn dda
. Peidio ag ysmygu
. Ymweliadau rheolaidd i'ch meddyg neu ganolfan sgrinio llygaid
. Gofyn am archwiliad llygad cyn beichiogrwydd
Pa mor fawr yw graddfa'r broblem?
Amcangyfrifir bod gan rhwng 1% a 6% o bobl sydd â diabetes sydd wedi eu cofrestru gyda Meddygon Teulu yn y Deyrnas Unedig retinopathi diabetig sydd angen triniaeth. Mae'r manylion yn brin oherwydd diffyg data, ond mae nifer o wasanaethau diabetes wedi dechrau rhaglenni sgrinio a chronfeydd data cyfrifiadurol yn ddiweddar ar gyfer sgrinio retinopathi ac fe fyddan nhw'n rhoi gwell gwybodaeth yn y dyfodol. Awgrymwyd y byddai rhaglen sgrinio cyfrifiadur-seiliedig yn arbed 260 achos newydd o ddallineb mewn pobl sydd â diabetes sy'n iau na 70 oed, bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.
Beth yw retinopathi diabetig?
Mae retinopathi diabetig yn gyflwr sy'n effeithio ar y llestri gwaed yn haenen gefn llygad (retina) pobl sydd â diabetes. Y retina yw pilen synhwyro y llygad ac mae'n cynnwys elfennau sy'n bwysig er mwyn gweld. Mae'r retina yn troi golau i mewn i signalau nerf sy'n cael eu hanfon ar hyd y nerf optig i'r ymennydd. Mae'r llestri gwaed bach hyn yn mynd yn wan ac yn torri i lawr, ac o ganlyniad mae yna ychydig o waedu ac mae sylweddau eraill yn gollwng i mewn i'r haenen bwysig yma o'r lygad. Unwaith y bydd y llestri gwaed hyn yn cael niwed nid oes modd gwyrdroi'r newidiadau ac fe all arwain at ddallineb
Pwy sydd mewn perygl o ddatblygu retinopathi?
Fel arfer, mae retinopathi yn un o gymhlethdodau diabetes hir sefydlog. Mae pob un sydd â diabetes mewn perygl - y rheiny sydd â diabetes math 1 yn ogystal â math 2. Po hiraf y mae'r diabetes arnoch, y mwyaf o risg o retinopathi sydd gennych. Amcangyfrifir bod gan dros 40% o'r bobl sydd wedi cael diabetes ers 15 mlynedd neu fwy rhyw dystiolaeth sy'n gysylltiedig â'r retina.
A oes modd ei atal?
Oes. Yn sicr, atal y broblem yw'r ateb gorau ar gyfer retinopathi diabetig. Fel arfer, mae retinopathi'n datblygu'n dawel. Yn gyntaf, efallai na fyddwch chi'n sylwi ar unrhyw newidiadau o gwbl yn eich golwg. Dros y blynyddoedd, efallai y bydd yn datblygu. Mae'n bwysig eich bod chi'n cael archwiliad llygaid unwaith y flwyddyn fel rhan o'ch gofal diabetes. Fe allai hyn olygu bod eich meddyg yn edrych ar gefn eich llygad gan ddefnyddio darn o offer o'r enw offthalmosgop neu mewn rhai canolfannau, cymryd llun retinaidd trwy ddefnyddio camera llygad digidol. Mae hyn yn eu galluogi nhw i ganfod y newidiadau cynharaf mewn retinopathi diabetig hyd yn oed cyn iddo ddechrau effeithio ar eich golwg ac mae'n golygu bod yna siawns dda y gallech gadw eich golwg.
Beth yw diben triniaeth laser ?
Diben triniaeth laser yw cadw eich golwg. Mae'n bwysig, felly, eich bod yn cael y driniaeth yn gynnar, cyn i chi golli rhan sylweddol o'ch golwg. Dyma pham mae sgrinio llygaid rheolaidd mor bwysig. Mae triniaeth laser yn selio'r llestri gwaed sy'n gollwng gan atal hylif a gwaed rhag gollwng.
Sut mae laser yn gweithio?
Mae laser yn fath arbennig o olau egni uchel sy'n gallu cael ei ganolbwyntio'n fanwl gywir. Gellir rheoli'r golau yn union gan alluogi'r person sy'n ei weithredu i daro llestri gwaed bach iawn yng nghefn y lygad. Fe fydd y claf yn eistedd wrth ymyl lamp slit sy'n galluogi' r offthalmolegydd i weld yr ardal sy'n cael ei drin. Yn aml, mae therapi laser yn defnyddio cannoedd o losgiadau laser bach ac efallai y bydd angen eu defnyddio mewn mwy nag un sesiwn. Mae hon yn driniaeth claf allanol. Efallai y bydd angen anesthetig lleoledig ar rai cleifion.
A all fy ngolwg waethygu?
Gall. Efallai y bydd cyfran fach o gleifion yn gweld eu golwg yn gwaethygu. Mae colli golwg ymylol yn fwy tebygol.
Beth yw cataract?
Mae cataract yn ddarn o lens y llygaid sydd wedi mynd yn anhryloyw ac mae'n ymyrryd â'ch golwg - mae fel cael baw ar ffenestr flaen eich car.
Mae lens y llygad wedi ei wneud o brotein sy'n cynnwys hylif. Fe all ddechrau cymylu am resymau amrywiol. Mae cataract yn fwy cyffredin wrth i chi heneiddio er ei fod yn digwydd ymhlith pobl o bob oed, hyd yn oed mewn babanod newydd-anedig. Mae hefyd yn fwy cyffredin ymhlith pobl sydd â diabetes.
Beth yw'r symptomau?
Yn ystod y camau cynnar, efallai na fyddwch yn sylwi ar unrhyw effaith ar eich golwg ac efallai y byddwch yn synnu bod cataract yn dechrau yn eich llygad. Efallai y sylwch chi bod eich golwg ychydig yn gymylog ac efallai y cewch chi drafferth gyda golau haul llachar neu oleuadau ceir sy'n dod tuag atoch yn y nos, am eu bod yn ymddangos yn llachar iawn. Efallai y bydd lliwiau'n ymddangos yn fwy gwelw. Mae darllen yn mynd yn fwy a mwy anodd.
Beth yw'r driniaeth?
Mae'r driniaeth ar gyfer cataract wedi symud ymlaen yn sylweddol yn ystod y cyfnod diweddar. Llawdriniaeth yw'r dull a ddewisir ac fe fydd eich lens yn cael ei dynnu ac fe fyddwch yn cael un artiffisial yn ei le. Fel arfer, mae llawdriniaeth cataract yn llwyddiannus iawn a fwy na thebyg mai dyma'r lawdriniaeth fwyaf cyffredin. Nid yw cataract bob amser yn golygu eich bod yn gorfod cael llawdriniaeth. Fe fydd eich Offthalmolegydd yn penderfynu. Fe fyddwch yn cael profion golwg rheolaidd unwaith y caiff ei ganfod fel bod modd penderfynu ar yr adeg orau i gael y lawdriniaeth.



