Strôc (Clefyd Serebro-fasgwlar)
Pwy sydd mewn perygl o gael strôc?
Beth yw strôc?
Rydych yn cael strôc pan fydd y llestri gwaed sy'n cyflenwi'r ymennydd yn cennu ( fur up ). Mae gan bobl sy'n cael strôc berygl uwch o gael cymhlethdodau atheroma eraill fel clefyd coronaidd y galon (CCG) a chlefyd fasgwlar ymylol. Atheroma yw'r enw a rhoddir ar gronfa o gramennau brasterog o fewn waliau'r llestri gwaed sy'n effeithio ar y cylchrediad.
Pwy sydd mewn perygl o gael strôc?
. Ysmygwyr
. Yr Henoed
. Pwysedd gwaed uchel
. Pobl sydd â diabetes
. Hanes o isgemia'r galon, strôc neu glefyd fasgwlar ymylol yn y teulu
Beth yw'r symptomau?
Mae'r symptomau'n dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys y math o strôc a'r rhan o'r ymennydd sy'n cael ei effeithio. Mae'r rhan fwyaf o achosion o strôc yn ganlyniad i flocio llwyr mewn rhydweli sy'n cyflenwi rhan o'r ymennydd sydd wedi cennu'n rhannol. Os mai dyma'r rhan sy'n rheoli symudiad un ochr y corff yna y canlyniad yw parlys sydyn rhannol neu gyfan gwbl ar yr ochr yma. Weithiau, mae strôc yn effeithio ar leferydd ac mae rhai achosion o strôc yn achosi anhawster llyncu neu gydbwysedd. Fe allai achosion eraill o strôc effeithio ar yr ymdeimlad fel bod un ochr o'r corff yn tueddu cael llai o sylw gan y person sydd â'r strôc.
Beth yw'r driniaeth?
Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion o strôc nid oes unrhyw driniaeth weithgar y gellir ei chynnig. Yn ffodus, gwelir gwellhad graddol yn y rhan fwyaf o bobl. Ond efallai na fyddan nhw'n gwella'n llwyr ac fe all gymryd hyd at chwe mis i gyrraedd y lefel terfynol o welliant, beth bynnag fydd hynny.
Mae'r canlynol yn hanfodol i ostwng y perygl o gael strôc arall yn y dyfodol:
. Gostwng colesterol
. Stopio ysmygu
. Rheoli pwysedd gwaed uchel
. Rheoli glwcos gwaed yn dda os oes gennych ddiabetes
. Cymryd aspirin yn rheolaidd os ydyw'ch meddyg wedi eich cynghori i wneud hynny



