Maint:

Problemau gyda'r Cylchrediad (Clefyd Fasgwlar Ymylol)

Beth yw clefyd fasgwlar ymylol?

Pwy sydd mewn perygl o gael CFY?

Beth yw'r symptomau?

Sut caiff ei ddiagnosio?

Beth yw'r driniaeth ?

Sut mae modd gwella cylchrediad?

Pwy sy'n addas ar gyfer angioplasti?

 

Beth yw clefyd fasgwlar ymylol?

Mae clefyd fasgwlar ymylol (CFY) yn gyflwr sy'n digwydd pan fydd y llestri gwaed (atherosglerosis) sy'n cludo gwaed at y coesau, yn cennu ( fur up ). Mae gan bobl sydd â CFY fwy o berygl o gael cymhlethdodau atheroma eraill fel clefyd coronaidd y galon (CCG) a strôc. Mae cramennau brasterog sy'n adeiladu o fewn waliau'r llestri gwaed yn effeithio ar y cylchrediad.

 

Pwy sydd mewn perygl o gael CFY?

. ysmygwyr
. yr henoed
. pwysedd gwaed uchel
. pobl sydd â diabetes
. hanes o isgemia'r galon, strôc neu glefyd fasgwlar ymylol yn y teulu

 

Beth yw'r symptomau?

. traed oer
. poen crampio neu flinder yng nghroth y goes sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cerdded ac yn diflannu pan fyddwch chi'n gorffwys. Gelwir hyn yn gloffni ysbeidiol ( intermittent claudication )
. poen llosgi yn y traed neu'r bysedd traed

 

Sut caiff ei ddiagnosio?

Mae eich meddyg yn debygol o wneud diagnosis clinigol. Efallai y bydd cais am brofion eraill fel uwchsain. Defnyddir angiograffeg i gadarnhau ac i gynllunio'r driniaeth.

 

Beth yw'r driniaeth?

Mae'r ffordd o drin CFY yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r cyflwr. Os ydyw'ch symptomau yn ddifrifol ac rydych yn cael poen pan yn gorffwys neu'n cerdded pellter bach, efallai y byddech yn elwa o weithdrefn i wella llif y gwaed i'ch coesau. Beth bynnag yw'r driniaeth, mae'r canlynol yn holl bwysig:
. gostwng colesterol
. stopio ysmygu
. ymarfer corff rheolaidd
. rheoli pwysedd gwaed uchel
. rheoli glwcos gwaed yn dda os oes diabetes arnoch

 

Sut mae modd gwella cylchrediad?

Mae yna ddau brif ymagwedd at wella llif y gwaed, sef angioplasti a llawfeddygaeth ddargyfeiriol:
. Gwneir angioplasti trwy basio tiwb tenau ar hyd y llestri gwaed i fyny'r ardal lle mae'r rhwystr. Mae yna falwn ar ddiwedd y tiwb a chaiff ei ymestyn i gael gwared ar y blocio. Mae 'stent' yn ddarn o rhwyll wifrog ( wire mesh ) siâp tiwb ac mae'n bosib y caiff ei osod i mewn i'r llestr gwaed sydd wedi culhau.
. Mae llawfeddygaeth ddargyfeiriol yn golygu llawdriniaeth ac mae'n defnyddio llestr neu diwb artiffisial i fynd o amgylch y rhydweli sydd wedi blocio.

 

Pwy sy'n addas ar gyfer angioplasti?

Nid yw angioplasti yn addas ar gyfer pob achos o flocio. Mae'r weithdrefn hon yn fwy addas ar gyfer 'blociadau byr' mewn llestr gwaed mawr.