Maint:

Niwropatheg Ymylol Diabetig

Beth yw niwropatheg ymylol?

Beth sy'n achosi niwropatheg?

Beth yw'r symptomau?

Dw i am wybod mwy am boen niwropatheg

Pwy sydd mewn perygl?

Beth yw'r driniaeth?

Oes mwy o wybodaeth ar gael o rywle?

 

Beth yw niwropatheg ymylol?

Mae'r nerfau ymylol yn rhan o'r gwaith o gludo signalau o'r ymennydd i'r cyhyrau ac maen nhw hefyd yn dychwelyd gwybodaeth o'r croen, er enghraifft ymdeimladau o deimlad, poen, tymheredd a safle. Mae niwropatheg diabetig yn un o gymhlethdodau diabetes sy'n arwain at golli rhai o'r swyddogaethau nerfol hyn. Mae nifer o organau eraill fel y galon, y llestri gwaed, y chwarennau chwys a'r perfeddyn yn cael eu cyflenwi gan rwydwaith o nerfau ac fe all niwropatheg diabetig effeithio ar waith yr organau hyn hefyd.

 

Beth sy'n achosi niwropatheg?

Mae yna nifer o gyflyrau sy'n gallu achosi niwropatheg heblaw am diabetes mellitus. Mewn diabetes, glwcos gwaed sydd ddim yn cael ei rheoli'n dda sy'n gyfrifol. Mae'n ymddangos fod pobl sydd â diabetes sy'n ysmygu, yn yfed alcohol neu â rheolaeth wael dros eu glwcos yn cael mwy o niwropatheg na phobl eraill sydd â diabetes.

 

Beth yw'r symptomau?

Mae niwropatheg yn effeithio ar y nerfau synhwyraidd ac felly nid oes syndod bod colli teimlad yn symptom amlwg. Yn aml, mae hyn yn dechrau yn y traed a does dim teimlad ynddyn nhw, neu maen nhw'n teimlo'n 'farw'. Nid ydych yn gallu teimlo poen na gwres cystal ac fe allai hyn arwain at anaf neu losgiad. Efallai fod gennych niwropatheg heb yn wybod i chi - nid yw llawer o'r unigolion sydd â niwropatheg diabetig yn cael unrhyw symptomau o gwbl. Weithiau, fe all niwed i nerfau oherwydd diabetes arwain at symptomau poenus. Mae cleifion yn sôn am boenau sy'n saethu ar eu traws neu sy'n eu trywanu ac ymdeimlad arwynebol o losgi neu binnau bach. Fe all y croen fod yn sensitif iawn i gyffyrddiad ysgafn ac fe all hyd yn oed pwysau'r dillad gwely yn y nos eich gwneud yn anghyffyrddus. Nid yw nerfau sy'n cyflenwi'r cyhyrau yn cael eu heffeithio cymaint mewn niwropatheg diabetig. Fe all hyn olygu anhawster wrth gerdded neu golli deheurwydd.

 

Dw i am wybod mwy am boen niwropatheg

Mae poen niwropatheg yn gallu bod yn anodd ei drin ac mae'n gallu anablu. Yn aml, nid yw'r symptomau hyn yn ymateb yn dda i driniaeth ac maen nhw'n cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd. Mae rhai o'r problemau sy'n gysylltiedig â niwropatheg poenus hir dymor yn cynnwys:
. torri ar draws cwsg
. cof gwael neu anhawster canolbwyntio
. iselder a hwyliau ansefydlog
. methu â gweithio neu wneud gweithgareddau sydd angen i fyw bob dydd

 

Pwy sydd mewn perygl?

Mae'r risg o ddatblygu niwropatheg diabetig yn cynyddu gyda:
. oed a pha mor hir y mae'r diabetes wedi bod arnoch
. diabetes sydd ddim yn cael ei rheoli'n dda
. ysmygu
. cymhlethdodau diabetig eraill fel clefyd yr aren neu'r llygaid.

 

Beth yw'r driniaeth?

I gleifion sydd â niwropatheg poenus, mae yna driniaethau ar gael sy'n defnyddio cyffuriau i leddfu'r boen ac maen nhw'n cynnwys amitriptyline, carbamazepine a gabapentin. Efallai y bydd rhai elïau arwynebol fel Axsain hefyd yn llesol.

 

Oes mwy o wybodaeth ar gael o rywle?

http://www.neuropathy-trust.org