Maint:

Clefyd yr Aren

Beth yw neffropathi diabetig?

A oes pob un sydd â diabetes yn cael neffropathi diabetig?

A oes modd ei atal?

Beth yw'r symptomau?

Sut mae neffropathi'n cael ei ddiagnosio?

A oes modd trin neffropathi diabetig?

Beth yw effeithiau methiant yr aren?

Beth yw dialysis?

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

 

Beth yw neffropathi diabetig?

Mae'r arennau'n gweithio fel system soffistigedig ar gyfer ffiltro'r gwaed ac maen nhw'n dueddol o adael i rai elfennau gwastraff penodol basio i mewn i'r wrin tra'n cynnal cyfansoddynnau pwysig fel celloedd a phroteinau. Mae neffropathi diabetig yn un o gymhlethdodau diabetes sy'n dueddol o ddatblygu ar ôl sawl blwyddyn ac mae'n arwain at golli gallu'r arennau i weithio yn gynyddol. Fel rhidyll sy'n dechrau gollwng, mae'r aren yn dechrau gollwng proteinau fel albumin sy'n cael eu colli yn yr wrin.

Fel arfer, mae neffropathi diabetig yn datblygu'n araf trwy sawl cam:

•  Gollwng symiau bach iawn o brotein - o'r enw microalbuminuria

•  Proteinuria cynyddol sy'n arwain at golli symiau mawr o brotein, gan achosi 'syndrom neffrotig', cyflwr sy'n cael ei ddiffinio fel cadw hylif a chwyddiant o ganlyniad i symiau isel o brotein

•  Mae'r arennau yn dod yn llai a llai abl i gael gwared a 'gwenwynau' o'r gwaed ac mae hyn yn gwneud i lefelau o gemegau amrywiol, fel urea a creatinine i gynyddu. Gelwir hyn yn 'fethiant arennol cronig' neu 'gam olaf Clefyd yr Aren'

 

A oes pob un sydd â diabetes yn cael neffropathi diabetig?

Mae neffropathi diabetig yn digwydd mewn hyd at draean o'r bobl sydd â diabetes. Mae risg yr unigolyn o ddatblygu problemau yn ymwneud â'r aren yn dibynnu a oes gennych ddiabetes math 1 neu ddiabetes math 2. Nid oes pob un sydd â diabetes hir sefydlog yn cael neffropathi. Nid ydym yn gwybod beth yw'r rheswm dros hyn. Rydym yn gwybod bod y ffactorau canlynol yn cynyddu eich risg:
. Pwysedd gwaed uchel
. Ysmygu
. Dim rheolaeth dda dros eich siwgr gwaed
. Bod yn ddyn

 

A oes modd ei atal?

Fel gyda'r rhan fwyaf o gymhlethdodau eraill mae yna dipyn y gallwch ei wneud i ostwng eich risg. Mae ymchwil wedi dangos bod y mesurau hyn yn ddefnyddiol hyd yn oed ar ôl i gamau cynnar neffropathi ddatblygu. Mae'n bwysig canfod y broblem yn gynnar felly ac erbyn hyn mae pob clinig diabetes yn sgrinio ar gyfer symiau bach iawn o brotein yn yr wrin, neu microalbuminuria, fel mater o drefn.
Mae'r canlynol wedi profi'n fanteisiol i ostwng y risg o broblemau o neffropathi diabetig:
. Cadw eich siwgr gwaed o fewn amrywiaeth ddiogel
. Cadw eich pwysedd gwaed o fewn amrywiaeth ddiogel
. Rheoli lipidau gwaed a cholesterol
. Defnyddio Atalyddion ACE (atalwyr Ensym sy'n Cyfnewid) a gwrthwynebwyr AT II. Mae'r cyffuriau hyn yn ddefnyddiol i atal cynnydd neffropathi ac maen nhw'n gweithredu trwy ostwng pwysedd gwaed yn y llestri gwaed mawr yn ogystal â gostwng pwysedd o fewn system ffiltro'r aren
. Addasu eich diet - mae hyn yn ddadleuol, ond credir ei fod o beth mantais unwaith y bydd problemau aren wedi dechrau
. Rhoi'r gorau i ysmygu

 

Beth yw'r symptomau?

Yn ystod camau cynnar neffropathi diabetig nid oes gennych symptomau fel arfer. Mae symiau bach o brotein yn gollwng i mewn i'r wrin (microalbuminuria). Fel arfer, nid oes protein yn cael ei ganfod yn yr wrin, dim ond yn ystod cyfnodau o dwymyn uchel, ymarfer corff egniol, beichiogrwydd, neu haint.
Wrth i'r cyflwr gynyddu, efallai y bydd gennych:
. Traed a choesau chwyddedig ac yna chwyddo trwy'r corff i gyd.
Cynnydd mewn pwysedd gwaed.
. Symiau mwy o brotein yn gollwng i mewn i'r wrin (macroalbuminuria, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel neffropathi amlwg).
. Lefelau cynyddol o fraster (colesterol a triglyseridau) yn y gwaed.
Unwaith y bydd yr arennau wedi eu niweidio'n fwy difrifol, efallai y bydd lefelau siwgr gwaed yn gostwng am fod yr arennau yn cadw inswlin yn y corff. Fe allai symptomau eraill ddod i'r amlwg, wrth i'r neffropathi waethygu.

 

Sut mae neffropathi'n cael ei ddiagnosio?

Canfod protein yn y dwr yw conglfaen y diagnosis:
Defnyddir prawf microalbumin i chwilio am symiau bach o brotein
Mae profion ffon fesur wrin yn canfod symiau cymedrol o brotein
Efallai y bydd eich meddyg yn gofyn am gasgliad wrin 24 awr er mwyn canfod faint o brotein yr ydych yn ei basio
Os oes amheuaeth ynghylch y diagnosis, efallai y bydd angen gwneud biopsi ar yr aren.

 

A oes modd trin neffropathi diabetig?

Atal yw'r ffordd orau o osgoi niwed parhaol i'r aren o ganlyniad i neffropathi diabetig. Unwaith y bydd y cyflwr wedi'i sefydlu, mae'r rhan fwyaf o bobl yn dueddol o gynyddu'n araf nes cael methiant arennol cronig. Mae'r holl ffactorau sy'n cael sylw uchod o ran 'atal' yn bwysig i atal swyddogaeth yr aren rhag mynd yn waeth. Mae pobl sydd â neffropathi diabetig mewn mwy o risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlar, ac felly mae'n bwysig eu bod yn ceisio gostwng y risg o broblemau yn ymwneud á'r galon. Mae hyn yn cynnwys cadw colesterol ar lefel normal, gwneud ymarfer corff rheolaidd, diet sy'n isel mewn braster, a dim ysmygu. Fe all gostwng colesterol hefyd helpu gostwng y lefel o brotein yn y dwr.
Pan fydd y cyflwr wedi cyrraedd cam olaf methiant yr aren mae dialysis a thrawsblaniad yn opsiynau. Mae canfod a thrin y cyflwr yn gynnar yn gallu arafu'r broses o golli'r aren ac ymestyn yr amser y mae'n ei gymryd i gyrraedd y cam dialysis neu drawsblaniad yn sylweddol

 

Beth yw effeithiau methiant yr aren?

Mae symptomau methiant aren yn llechwraidd iawn wrth ddod i'r amlwg ac nid ydynt yn benodol iawn oherwydd fe ellir eu cael gydag amrywiaeth o gyflyrau eraill hefyd:
. Teimlo'n flinedig - diffyg egni nodedig
. Teimlo'n sâl.
. Pasio mwy o ddwr - mwy amlwg yn y nos
. Teimlo'n gyfoglyd
. Newid yn yr ymdeimlad o flas
. Crafu
. Coesau'n chwyddo
. Diffyg anadl

 

Beth yw Dialysis?

Pan fydd yr arennau'n methu i'r lefel lle y bydd 10-15% o'u swyddogaeth yn unig yn parhau, nid ydyn nhw'n gallu alldaflu'r symiau angenrheidiol o sylweddau hylif a gwenwynig mwyach. Wedi hyn, mae'r corff yn dechrau dal hylif ac mae cemegau gwenwynig yn adeiladu i fyny ac mae hyn yn cael effaith ar ansawdd bywyd. Mae dialysis yn gallu helpu ar y cam yma trwy gymryd peth o waith ffiltro eich arennau. Mae yna ddau brif fath o ddialysis:
. Hemodialysis - pan fydd eich gwaed yn cael ei basio trwy beiriant ffiltro arbennig sy'n clirio'r sylweddau gwenwynig cyn ei dychwelyd i'ch corff
. Dialysis peritoneaidd - lle gosodir yr hylif dialysis yn eich bol. Mae leinin ceudod yr abdomen yn gweithio fel pilen ffiltro. Yna, mae'r hylif yn cael ei dynnu allan gan fynd á'r eitemau gwenwynig sydd wedi cael eu ffiltro hefyd.

 

Dolenni Cyswllt Defnyddiol

http://www.kidneypatientguide.org.uk/