Maint:

Cetoasidosis Diabetig

Beth yw Cetoasidosis?

Pam mae cleifion yn cael Cetoasidosis?

Beth yw'r symptomau?

A ydyw'n ddifrifol?

Sut caiff ei drin?

Ydw i'n debygol o'i gael eto?

 

Beth yw Cetoasidosis?

Mae Cetoasidosis Diabetig yn un o gymhlethdodau difrifol diabetes sy'n digwydd ymhlith pobl sydd â diabetes math 1. Oherwydd diffyg inswlin ceir crynoadau uchel o glwcos gwaed, disychu cynyddol a llewygu. Mae hefyd yn achosi i storfeydd braster i dorri i lawr heb reolaeth ac o ganlyniad mae'n rhoi gormod o bwysedd ar yr afu ac yna caiff symiau mawr o getoasidau eu rhyddhau i mewn i'r cylchrediad. Mae lefelau uchel o asid gwaed yn niweidiol i'r corff ac yn achosi niwed i organau, a marwolaeth, os na chaiff ei drin mewn amser.

 

Pam mae cleifion yn cael Cetoasidosis?

Mae Cetoasidosis yn ganlyniad i ddiffyg inswlin llwyr. Mae pobl sydd â diabetes math 1 yn datblygu Cetoasidosis am amrywiaeth o rhesymau:
. Yn aml, mae o ganlyniad i stopio inswlin yn ystod adegau o salwch
. 'Pwysedd' oherwydd heintiadau difrifol, chwydu a dolur rhydd
. Trawma, llawfeddygaeth
. Mae heintiadau cyffredin yn cynnwys niwmonia, heintiadau troethol a heintiadau gastroberfeddol.

 

Beth yw'r symptomau?

Dyma'r symptomau:
. Syched a phasio swm sylweddol o ddwr
. Poen yn yr abdomen
. Gwendid
. Cyfog a chwydu
. Anadlu'n gyflym ac yn ddwfn ( hyperventilation )
. Drysu, cysglyd
. Coma
Mae'r cyflwr yn datblygu yn gyflym gyda mwy a mwy o ddisychu, pwysedd gwaed yn syrthio, anadlu'n gyflym ac yn ddwfn a thymheredd corff isel.

 

A ydyw'n ddifrifol?

Ydi, os na chaiff ei drin mewn amser fe all Cetoasidosis arwain at sioc, methiant yn yr arennau, methiant organau lluosog a marwolaeth.

 

Sut caiff ei drin?

Mae'r driniaeth yn golygu:
. Cyflwyno inswlin yn ôl i'r corff
. Cyflwyno halen a dwr a gollwyd yn ôl i'r corff
. Trin unrhyw achos wrth wraidd y sefyllfa, ee gwrthfiotigion ar gyfer haint
Mae rheoli CAD yn golygu mynd i mewn i'r ysbyty ac arwydd o ddifrifoldeb y cyflwr yw'r ffaith fod nifer o ganolfannau yn anfon cleifion i uned ddibyniaeth uchel neu uned gofal dwys fel mater o drefn.

 

Ydw i'n debygol o'i gael eto?

Ydych. Mae llawer o gleifion yn cael CAD eto. Mae'n arbennig o gyffredin mewn pobl ifainc yn eu harddegau sydd, am resymau amrywiol, yn mynd heb ddos o inswlin.