Cyflwyniad
Beth yw cymhlethdodau diabetes?
Beth ydyn ni'n gwybod am y perygl o gymhlethdodau mewn Diabetes Math 1?
Beth ydyn ni'n gwybod am y perygl o gymhlethdodau mewn Diabetes Math 2?
Beth yw cymhlethdodau diabetes?
Mae cymhlethdodau hir dymor diabetes yn cynnwys sawl system wahanol yn y corff. Gellir dod o hyd iddynt adeg diagnosio'r diabetes, neu sawl blwyddyn wedi i'r diabetes ddechrau. Credir bod llawer o gymhlethdodau hir dymor diabetes yn ganlyniad i lefelau cyson uchel o glwcos gwaed neu lefelau colesterol gwaed uchel neu bwysedd gwaed sydd ddim wedi ei rheoli'n dda. Mae rheoli lefelau glwcos gwaed a phwysedd gwaed a cholesterol yn gostwng peryglon y cymhlethdodau hyn. Ond, efallai y bydd y cymhlethdodau hyn yn digwydd hyd yn oed os ydych wedi bod yn rheoli yn dda. Gellir eu categoreiddio fel a ganlyn:
. Cymhlethdodau metabolaidd aciwt:
- Cetoasidosis Diabetig
- Hypoglycemia
. Cymhlethodau 'Macro-fasgwlar' (sy'n gysylltiedig â llestri gwaed mawr):
- Clefyd coronol y galon
- Strôc
- Clefyd fasgwlar ymylol
. Cymhlethdodau 'Micro-fasgwlar' (sy'n gysylltiedig â llestri gwaed bach):
- Retinopathi Diabetig (clefyd y llygaid)
- Niwropatheg (sy'n effeithio ar y nerfau i'r traed)
- Niwropatheg Diabetig (Clefyd yr Aren)
. Heintiadau
Beth ydyn ni'n gwybod am y perygl o gymhlethdodau mewn Diabetes Math 1?
Mae'n anarferol i bobl gyda diabetes math 1 gael cymhlethdodau fel retinopathi a niwropatheg o fewn pum mlynedd cyntaf eu diabetes.
Mae astudiaethau wedi dangos bod y risg o niwed i'r aren a chlefyd llygad yn fwy cyffredin mewn pobl sydd â rheolaeth wael. Mae'r risg yma'n codi'n sylweddol pan fydd gwerthoedd HbA1c yn fwy na 9% ac mae ar ei uchaf os bydd y gwerth HbA1c yn uwch na 12%.
Dangosodd y Treialon Cymhlethdodau a Rheolaeth Diabetes (TCRD) fod 12% o bobl â diabetes math 1 a gafodd driniaeth ddwys (rheolaeth dynn) wedi datblygu newidiadau retinopathi newydd ar ôl naw mlynedd, o'u cymharu â 54% o bobl â gafodd driniaeth gan ddefnyddio dulliau confensiynol (rheolaeth llai tyn). Roedd retinpoathi cynyddol yn anghyffredin ar lefelau HbA1c is na 7%. Roedd pobl â retinopathi ysgafn iawn hefyd yn llai tebygol o ddatblygu at retinopathi difrifol os oedden nhw'n cael eu rheoli'n dda. Gwnaed arsylwadau tebyg ar gyfer niwropatheg diabetig.
Mae rheoli pwysedd gwaed uwch yn dynn hefyd yn gostwng y risg o ddatblygu cymhlethdodau neu eu gwneud yn waeth.
Beth ydyn ni'n gwybod am y perygl o gymhlethdodau mewn Diabetes Math 2?
Dangosodd Astudiaeth Diabetes Arfaethedig y Deyrnas Unedig fod crynoadau glwcos gwaed uchel yn cyfrannu at y perygl o glefyd llestri bach yn diabetes math 2 hefyd. Fe fu'r ymchwilwyr yn archwilio dros 4000 o bobl sydd â diabetes math 2, gan edrych unwaith eto ar effeithiau triniaeth 'ddwys' a chonfensiynol'. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, canfuwyd bod gan bobl yn y grwp a gafodd driniaeth ddwys, a oedd â lefel HbA1c o 7.0% 25% llai o risg o gymhlethdodau fel clefyd yr aren a'r llygad (o'u cymharu â 7.9% yn y grwp triniaeth confensiynol).
Dangosodd yr un astudiaeth bod gostwng pwysedd gwaed uchel yn golygu llai o gymhlethdodau mewn diabetes math 2.



