Maint:

Heintiadau

Beth yw llindag (thrush)?

Beth yw tarwden y traed (tarwden y traed)?

 

Beth yw Llindag (thrush)?

Mae llindag (thrush) yn derm a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio haint ffyngaidd a achosir gan organedd o'r enw Candida Albicans. Caiff y cyflwr ei alw yn Candidiasis neu'n Moniliasis hefyd. Nid yw'r heintiadau hyn yn ddifrifol fel arfer, er eu bod nhw'n anghyfleus, ond gyda rhai pobl sydd wedi'u gwrthimiwneiddio, fe allan nhw fod yn beryg bywyd. Mae cleifion sydd â diabetes yn fwy tueddol o gael heintiadau candidaidd, yn enwedig os nad ydynt yn ei rheoli'n dda. Mae'n gyffredin i heintiadau yn y fagina neu'r geg arwain at ddiagnosis o ddiabetes nad oedd wedi ei amau ynghynt. Mae'r organedd Candida yn bresennol ym mhob rhan o fyd natur a gellir dod o hyd iddo yng ngheg neu ysgarthion pobl sydd â iechyd da iawn yn aml.

Mae llindag y fagina yn achosi crafu ofnadwy o amgylch y fylfa a dadlwythiad hufennog gwyn. Fe allai'r ardal fod yn goch ac yn boenus. Efallai y cewch deimlad o losgi wrth basio dwr ac efallai y bydd angen i chi basio dwr yn aml. Gellir camgymryd y symptomau hyn am heintiadau troethol.

Fel arfer, mae'n bosib trin yr heintiadau hyn heb orfod llyncu tabledi a meddyginiaethau ar y croen, ar ffurf lozenge, hufen, pesari a gel. Mae meddyginiaethau i'w llyncu hefyd yn effeithiol iawn ac yn aml dim ond un dos sydd angen.

 

Beth yw tarwden y traed (athlete's foot)?

Mae tarwden y traed yn heintiad ffyngaidd ar y croen sy'n digwydd yn aml rhwng bysedd traed pobl sydd â diabetes. Mae'n ymddangos fel brech a allai ledu i sodlau'r traed, neu ymylon y traed. Amcangyfrifir, ar unrhyw un adeg, bod gan tua 17% o oedolion yn y Deyrnas Unedig darwden y traed. Mae heintiadau ffyngaidd hefyd yn digwydd rhwng y bysedd traed ac yn yr ewinedd traed. Mae pobl sydd â diabetes yn fwy tueddol o ddatblygu tarwden y traed.

Efallai fod cen ( scaling ), craciau a chochni ar y croen. Efallai fod y frech yn crafu. Os na chaiff ei drin mewn amser fe allai ddatblygu yn haint cronig. Efallai y bydd pothelli gwyn neu frown bach yn dod i'r amlwg. Efallai y bydd y croen rhwng y bysedd traed yn edrych yn wlyb ac yn wyn. Efallai y bydd y sodlau yn ymddangos fel powdr ac yn sych.

Defnyddir triniaethau gwrth-ffyngaidd ar y croen (yn lleoledig) yn aml. Mae yna amrywiaeth o bowdrau, hufenau ac eliau ar gael. Cyfyngedig yw gwerth y powdr wrth drin heintiadau sydd wedi bod yno ers tipyn ond fe allai fod yn ddefnyddiol i atal yr haint rhag dod yn ôl. Hufenau sy'n gweithio orau ond mae'n nhw'n amrywio'n sylweddol iawn yn eu heffeithiolrwydd. Holwch eich meddyg neu bodiatrydd. Nid yw union rôl glendid personol mewn achosi heintiadau traed yn glir. Awgrymir golchi'r traed bob dydd. Dylid sychu'r traed yn drwyadl, yn enwedig rhwng y bysedd traed. Newidiwch eich sanau bob dydd.