Clefyd y Galon
Pa symptomau eraill ydw i'n debygol o'u cael?
A yw poen yn y fron bob tro'n ganlyniad i angina?
Pam mae'r arterïau yn cael eu cennu?
Beth alla i wneud i ostwng fy risg o clefyd coronol y galon?
Dw i wedi clywed bod alcohol yn gallu helpu - ydi hyn yn wir?
Sut mae angina yn cael ei drin?
Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?
Cyflwyniad
Clefyd y Galon yw un o'r cymhlethdodau mwyaf cyffredin gyda photensial i fod yn ddifrifol sy'n perthyn i diabetes. Fodd bynnag, mae yna nifer o fesurau ymarferol y gellir eu cymryd i ostwng y risg.
Fel arfer, mae clefyd y galon yn cael ei achosi gan yr arterïau coronol yn caledu ac yn culhau (atherosglerosis). Mae hyn yn cyfyngu'r cyflenwad gwaed i gyhyr y galon sy'n gwneud y gwaith pwmpio. Fe all hyn arwain at boen yn y fron wedi gor-wneud pethau (angina) neu at drawiad ar y galon. Fel arfer, mae trawiad ar y galon yn cael ei achosi gan glot gwaed yn ffurfio mewn arteri coronol sydd wedi culhau yn flaenorol (thrombosis coronol). Mae hyn yn arwain at niwed parhaol i ran o gyhyr y galon.
Mae caledu'r arterïau yn gyflwr cyffredin sy'n digwydd i rai graddau ym mhob un ohonom wrth i ni heneiddio. Mae'n dueddol o ddigwydd ar oed cynharach mewn pobl sydd â diabetes, oni chymerir mesurau i'w atal. Er bod yr arterïau coronol yn arbennig o fregus, mae arterïau i'r ymennydd hefyd yn gallu cael eu heffeithio, gan achosi strôc, ac arterïau i'r coesau gan achosi poen wrth gerdded (cloffni) a'r risg o wlserau.
Beth alla i wneud i'w atal?
Mae'r mesurau y gellir eu cymryd i ostwng y risg o glefyd y galon a phroblemau eraill gyda'r cylchrediad fel a ganlyn:
. Peidiwch ag ysmygu - pwysig iawn.
. Gwnewch ymarfer corff rheolaidd - bob dydd os yn bosib.
. Bwytewch ddiet iach sy'n isel mewn braster, gyda digon o ffrwythau, llysiau a ffibr naturiol.
. Rheolwch eich diabetes mor ofalus ag sy'n bosib.
. Gostyngwch faint o halen ac alcohol yr ydych yn ei fwyta/yfed a chadwch bwysau eich corff o dan reolaeth i ostwng eich pwysedd gwaed.
. Cymerwch feddyginiaeth pwysedd gwaed yn rheolaidd, os ydyw wedi ei argymell.
. Cymerwch feddyginiaeth sy'n gostwng colesterol os ydyw wedi ei argymell.
. Efallai y bydd Aspirin yn cael ei argymell i ostwng y risg o thrombosis.
Beth yw Angina?
Mae Angina yn derm sy'n disgrifio poen yn y fron, sy'n digwydd oherwydd clefyd coronol yr arterïau (cennu ( furring ) yn y llestri gwaed sy'n cyflenwi'r galon). Fe allai natur y boen amrywio o berson i berson, ond fel arfer mae'n golygu eich bod yn anghyffyrddus, yn drwm neu'n dynn yng nghanol eich bron. Fe all y boen ledu i'r gên gwddf, ysgwyddau ac un neu ddwy fraich.
Fel arfer, mae'r symptomau hyn yn digwydd oherwydd gor-wneud pethau ac fe fydd gorffwys yn eu gwella. Ond, mae ffactorau eraill fel pwysedd a diflastod emosiynol, bwyta pryd trwm o fwyd neu bod yn agored i dywydd oer yn sydyn hefyd yn dod ag angina ymlaen. Mewn rhai cleifion, nid yw angina yn cael ei symbylu o gwbl ac mae'n digwydd pan fydd y person yn gorffwys.
Mae angina yn symptom rhybudd. Ni ddylai gael ei anwybyddu ac os ydych yn credu bod angina arnoch, dylech ddweud wrth eich meddyg cyn gynted ag sy'n bosib.
Pa symptomau eraill ydw i'n debygol o'u cael?
Mae angina yn gysylltiedig â symptomau eraill sydd wedi eu rhestru isod:
. diffyg anadl
. chwysu
. pendro
. pryder
A yw poen yn y fron bob tro'n ganlyniad i angina?
Na, mae yna sawl peth arall sy'n achosi poen yn y fron. Mae problemau cyffredin yn cynnwys poen cyhyrol sy'n codi o wal y fron a phoen oherwydd diffyg treulio ( indigestion ).
Beth yw achos angina?
Mae'ch calon yn bwmp sy'n pwmpio gwaed o amgylch eich corff. Mae'r cyhyrau sy'n ffurfio siambrau'r galon yn gweithio'n barhaus ac maen nhw angen cyflenwad da o ocsigen a maetholion sy'n cael eu cludo gan rwydwaith o lestri gwaed. Weithiau, mae'r llestri gwaed yn cennu ac yn culhau oherwydd braster sydd wedi eu gadael yn waliau'r llestri dros gyfnod hir o amser. Yr enw am hy yw atherosglerosis. Pan mae'r galon yn gweithio'n fwy caled yn ystod ymarfer corff, nid yw llif y gwaed ar hyd y llestri cul hyn yn gallu cadw i fyny gyda'r galwadau cynyddol ar y galon. Pan fydd hyn yn digwydd, mae eich calon yn mynd yn brin o ocsigen a maetholion, gan achosi poenau yn y fron i ddatblygu.
Pam mae'r arterïau yn cennu ( furr up )?
Mae proses atherosglerosis yn dechrau ar oed cynnar ac yn parhau trwy gydol eich bywyd. Mae pobl sydd â diabetes yn fwy tebygol o ddatblygu atherosglerosis. Mae ffactorau risg eraill ar gyfer atherosglerosis yn cynnwys:
. lefelau uchel o golesterol gwaed
. ysmygu
. pwysedd gwaed uchel
. ffordd o fyw lle rydych yn eistedd llawer
. pwyso mwy na'r pwysau delfrydol
Mae Angina yn rhedeg mewn teuluoedd. Os oes rhai o aelodau agosaf y teulu, wedi cael angina neu drawiad ar y galon, credir bod hyn yn cynyddu y tebygrwydd o ddatblygu'r broblem hon.
Beth alla i wneud i ostwng fy risg o clefyd coronol y galon?
Mae yna lawer y gallwch chi ei wneud i ohirio neu atal angina rhag datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys:
. rhoi'r gorau i ysmygu!
. newid eich diet a'ch ffordd o fyw
. ymarfer corff rheolaidd
. trin diabetes a phwysedd gwaed uchel
. therapi gostwng colesterol pan yn addas
. y defnydd o Aspirin pan yn addas
Siaradwch â'ch meddyg ac fe fydd yn gallu eich cynghori chi ynglyn â'r opsiynau sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi..
Dw i wedi clywed bod alcohol yn gallu helpu - ydi hyn yn wir?
Mae yna beth tystiolaeth bod yfed swm bach o alcohol, tua 2-3 uned y dydd, yn gallu amddiffyn y galon. Mae'r cyngor gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn nodi na ddylech ddechrau yfed er mwyn amddiffyn eich calon!
Sut mae angina yn cael ei drin?
Yn y Deyrnas Unedig, awgrymir erbyn hyn y dylid trin pobl sydd ag angina gydag aspirin, cyffuriau sy'n gostwng colesterol a blocwyr beta. Fe fydd eich meddyg yn trafod y triniaethau hyn ymhellach gyda chi.
Oes mwy o wybodaeth ar gael o rhywle?
Mae gwybodaeth bellach ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon: http://www.bhf.org.uk



