Maint:

Trafferth Cael Codiad

Beth yw trafferth cael codiad (Erectile Dysfunction)?

Ydw i'n debygol o gael ED?

Ffactorau sy'n gallu achosi neu waethygu ED

Pa help sydd ar gael?

Triniaeth trwy gyffuriau

Sut mae hyn yn gwella ED?

Pwy ddylai ystyried defnyddio'r meddyginiaethau hyn?

A ydyw'n effeithiol?

A ydyw'n ddiogel?

Pwy na ddylai gymryd y cyffuriau hyn?

Sut ddylwn i gymryd meddyginiaethau ar gyfer ED?

Oes unrhyw sgil-effeithiau?

Pa mor aml ydw i'n gallu ei ddefnyddio?

 

Beth yw trafferth cael codiad (Erectile Dysfunction)?

Y gair cyffredin yn Saesneg am drafferth cael codiad (ED) yw 'impotence', ac mae'n cael ei ddiffinio fel methu â chynnal codiad yn ddigon hir i gael cyfathrach rhywiol. Mae methu â chael codiad yn rhywbeth cyffredin iawn ymhlith dynion iach o bob oed ac nid ydyw bob amser yn arwydd fod rhywbeth yn bod yn gorfforol. Mae llawer o ddynion yn cael trafferth cael codiad ar rhyw adeg yn eu bywydau ac mae'n broblem sy'n cynyddu gydag oed.

 

Ydw i'n debygol o gael ED?

Mae tua 10% o ddynion (1 o bob 10 dyn) sy'n hyn na 40 yn dioddef o ED, os oes ganddyn nhw ddiabetes neu beidio.
Fe all ED effeithio cymaint â 50% (hanner) y cleifion sydd â diabetes. Mae'r ffigwr hwn yn cynyddu i dros 75% (tri chwarter) mewn dynion diabetig dros 70 oed.

 

Ffactorau sy'n gallu achosi neu waethygu ED

Fe all achosion ED fod yn seicolegol (emosiynol) neu'n gorfforol. Mewn llawer o enghreifftiau, mae cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol.
Fe all diabetes achosi niwed i'r cyflenwad nerfau a'r cyflenwad gwaed i'r pidyn ac mae hyn yn achosi ED.
Fe all cyffuriau a ddefnyddir i drin pwysedd gwaed uchel ac iselder gyfrannu at hyn.
Fe all trafferth cael codiad greu problemau seicolegol gan gynnwys pwysedd, pryder, iselder a phroblemau priodasol. Yn yr un modd, mae'n bosib taw'r problemau hyn yw'r achos wrth wraidd methu â chael codiad.

 

Pa help sydd ar gael?

I ddechrau, mae'n bwysig trafod gyda'ch partner. Mae'n berffaith normal i chi deimlo'n rhwystredig ac â chywilydd ac mae llawer yn teimlo bod hon yn broblem anodd i'w thrafod. Efallai y bydd eich partner yn teimlo yr un mor rhwystredig neu wrthodedig. Fe fydd trafod agweddau amrywiol y cyflwr hwn yn eich helpu chi'ch dau i ddeall a delio gyda'r sefyllfa.
Trafodwch y broblem gyda'ch Meddyg Teulu neu'r meddyg neu nyrs diabetes arbenigol y byddwch yn ei (g)weld yn y clinig diabetes.

 

Triniaeth trwy gyffuriau

Mae'r meddyginiaethau canlynol, sy'n cael eu llyncu, nawr ar gael i drin trafferth cael codiad: -Viagra (Sildenafil) ; Cialis (Tadalafil) ; Levitra (Vardenafil). Mae'r rhain yn gweithio trwy wella llif y gwaed i'r pidyn pan fyddwch chi wedi eich cyffroi yn rhywiol. Nid ydyn nhw'n cael unrhyw effaith ar chwant rhywiol na libido, ac nid ydyn nhw'n effeithio'r alldaflu.

 

Sut mae hyn yn gwella ED?

Nid yw'r cyffuriau hyn yn 'gwella' trafferth cael codiad. Efallai y byddan nhw'n eich helpu chi i gael codiad ond nid ydyn nhw'n trin yr achosion wrth wraidd y problemau a allai fod yn gyfrifol am y broblem. Os ydyw'r ED yn ganlyniad i rhesymau seicolegol neu emosiynol yna fe allai hwyluso'r codiad ddod â pheth manteision hir dymor hefyd trwy gael gwared ar y rhwystr meddyliol.

 

Pwy ddylai ystyried defnyddio'r meddyginiaethau hyn?

Dylai dynion sy'n methu â chael neu gadw codiad sy'n ddigon da i gael cyfathrach rhywiol ystyried a ydyw Viagra, Cialis neu Levitra yn opsiwn addas.

 

A ydyw'n effeithiol?

Mae astudiaethau clinigol wedi cadarnhau bod y cyffuriau hyn yn effeithiol. Mewn trafferth cael codiad sy'n seicogenaidd mae cyfraddau ymateb gyda thrafferth cael codiad wedi bod mor uchel â 80-90%. Roedd gan dros hanner y dynion â diabetes math 1 well codiad gyda Viagra.

 

A ydyw'n ddiogel?

Ydy. Os ydych yn ei ddefnyddio'n ofalus yn unol â'r canllawiau presgreibio a gan osgoi meddyginiaethau'r galon, mae Viagra yn driniaeth ddiogel.

 

Pwy na ddylai gymryd y cyffuriau hyn?

. Dynion sydd ddim yn cael trafferth cael codiad.
. Nid yw'n addas ar gyfer menywod na phlant.
. Ni ddylech gymryd rhain os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaethau'r galon sy'n cynnwys Nitradau.
. Dynion sydd wedi cael trawiad ar y galon neu strôc yn ddiweddar.
. Os ydyw'ch pwysedd gwaed yn anarferol o isel.
. Ni ddylech gymryd rhain os nad ydyw'r meddyg yn eu hargymell. Efallai y cewch eu cynnig gan ffrind neu efallai y cewch chi'r tabledi ar y farchnad ddu (sydd hefyd yn anghyfreithlon). Os ydych yn eu defnyddio yn y ffordd hon fe allai beryglu eich iechyd.

 

Sut ddylwn i gymryd Viagra, Cialis neu Levitra?

Viagra
Cymrwch y ddos sydd wedi ei phresgreibio un awr cyn cael cyfathrach rhywiol. Llyncwch y dabled yn gyfan gyda pheth dwr. Mae'n bwysig cofio na fydd Viagra yn gweithio os na chewch eich cyffroi yn rhywiol. Os nad ydych wedi'ch cyffroi yn rhywiol ni fydd y llwybrau arferol sy'n arwain at gael codiad yn cael eu gweithio. Mae'r amser y mae Viagra yn ei gymryd i weithio yn amrywio ond fel arfer mae'n effeithiol o fewn hanner awr i awr. Os ydych wedi bwyta pryd llawn o fwyd fe all gymryd mwy o amser i weithio, yn enwedig os oedd y bwyd yn uchel mewn braster.

Cialis
Gallwch gymryd Cialis unrhyw adeg rhwng 12 awr a hanner awr cyn gweithgarwch rhywiol. Mewn gwirionedd, fe all fod yn effeithiol am hyd at 24 awr ar ôl cymryd y dabled. Mae'n bwysig iawn eich bod yn sylweddoli na fydd y dabled yn gweithio fel cyffroad rhywiol fel cynchwarae. Mewn geiriau eraill, ni ddylech gael codiad am ddim rheswm o gwbl.

Levitra
Mae angen i chi gymryd Levitra tua hanner awr i awr cyn gweithgarwch rhywiol. Fe fydd ond yn gweithio pan fyddwch yn cael eich cyffroi'n rhywiol.

 

Oes unrhyw sgil-effeithiau?

Dyma rai o'r sgil-effeithiau y gallech eu profi:
. Pen tost
. Pyliau poeth
. Pendro
. Teimlo'n gyfoglyd a chwydu
. Newid glas/gwyrdd yn eich golwg
. Mae rhai cleifion yn cwyno am boen yn eu cyhyrau
. Mae yna rai achosion o godiad hir a phoenus wedi bod ond maen nhw'n brin iawn.

 

Pa mor aml ydw i'n gallu ei ddefnyddio?

Y mwyaf aml sydd wedi ei argymell yw unwaith y dydd. Nid oes terfyn amser ar faint allwch chi barhau i ddefnyddio'r driniaeth hon.