Niwropatheg Awtonomig
Beth yw niwropatheg awtonomig?
Beth yw niwropatheg awtonomig
Mae hwn yn cyfeirio at niwropatheg diabetig neu niwed i'r nerfau sy'n ymwneud â'r 'nerfau awtonomig'. Nerfau yw'r rhain sy'n cyflenwi nifer o'r organau mewnol:
. Y system dreulio - Stumog, Oesoffagws (pibell fwyd), Coluddyn
. System cardiofasgwlar - Calon, llestri gwaed
. System cenhedlol-droethol - Swyddogaeth rhywiol a pledren
. Chwarennau chwys
Beth yw'r symptomau tebygol?
Os oes unrhyw un o'r symptomau hyn gennych, siaradwch â'ch meddyg ac fe fydd yn gallu trefnu archwiliadau addas ar eich cyfer:
. Stumog - chwyddo, poen yn rhan uchaf yr abdomen, chwydu
. Coluddyn- mynd yn rhwym, dolur rhydd yn ystod y nos
. Calon - teimlo fel llewygu / pendro wrth sefyll
. Pledren - oedi cyn gwacau'r pledren
. Swyddogaeth rhywiol- trafferth cael codiad
. Chwarennau chwys - methu â chwysu, croen yn sych/hollti
. Llestri gwaed - cochni yn y bysedd traed, traed yn gynnes ac wedi chwyddo
Yn aml, unwaith y bydd niwropatheg awtonomig wedi'i sefydlu, mae'n anodd ei drin ac weithiau y cyfan y gellir ei wneud yw lleddfu'r symptomau.



